Yn ôl i newyddion

Melin Homes yn apelio am fusnesau lleol i dderbyn gwirfoddolwyr ar leoliad gwaith

Mae gwasanaeth cyflogaeth Cartrefi Melin, Melin Works, yn apelio am fusnesau lleol i weithio gydag ef i ddarparu lleoliadau gwaith ar gyfer preswylwyr. Bydd pob busnes sy'n cynnig cyfle mewn lleoliad gwaith yn cael cefnogaeth lawn gan Swyddogion Cyflogaeth profiadol Melin a hynny drwy gydol y lleoliad. Gall Melin Works dalu am gostau teithio ac unrhyw offer sydd eu hangen ar gyfer preswylwyr i gwblhau'r lleoliad gwaith.

Ysgrifennwyd gan Marcus

30 Medi, 2015

Melin Works
Mae gwasanaeth cyflogaeth Cartrefi Melin, Melin Works, yn apelio am fusnesau lleol i weithio gydag ef i ddarparu lleoliadau gwaith ar gyfer preswylwyr. Bydd pob busnes sy'n cynnig cyfle mewn lleoliad gwaith yn cael cefnogaeth lawn gan Swyddogion Cyflogaeth profiadol Melin a hynny drwy gydol y lleoliad. Gall Melin Works dalu am gostau teithio ac unrhyw offer sydd eu hangen ar gyfer preswylwyr i gwblhau'r lleoliad gwaith.

Meddai Paula Skyrme, Prif Swyddog Cyflogaeth ym Melin Works; "Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol hyd yn hyn gyda dros 1600 o bobl yn derbyn cefnogaeth i ddychwelyd i waith, hyfforddiant neu leoliad gwaith. Fodd bynnag, rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid busnes lleol newydd i weithio gyda ni i helpu pobl o'r gymuned leol i ddychwelyd i fyd gwaith drwy roi profiad gwaith gwerthfawr iddynt. Mae busnesau yn derbyn gwirfoddolwyr sy'n awyddus i ddysgu a gweithio'n galed ac rydym wrth law i wneud yn siŵr eich bod chi a'r gwirfoddolwyr yn cael yr holl gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd ei angen."

Mae'r holl ymgeiswyr yn cael eu harchwilio ac nid oes unrhyw gostau i fusnesau, dim ond amser staff yn unig a pharodrwydd i helpu pobl ddi-waith mewn cymunedau lleol

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Paula Skyrme, Prif Swyddog Cyflogaeth. Rhif ffôn 01495 745910 neu e-bost paula.skyrme@melinhomes.co.uk.

Yn ôl i newyddion