Yn ôl i newyddion

Arbed, Ymgyrch Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn cadw paffio’n fyw ac iach ym Maerdy

Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1.4 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni mewn dros 387 o gartrefi ym Maerdy, Rhondda Cynon Taf.

Ysgrifennwyd gan Valentino

01 Gorff, 2016

Arbed, Ymgyrch Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn cadw paffio’n fyw ac iach ym Maerdy
Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1.4 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni mewn dros 387 o gartrefi ym Maerdy, Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan Dîm Bod yn Wyrddach Cartrefi Melin, sydd hefyd wedi gweithio gyda'r clwb paffio lleol. Mae'r clwb paffio yn darparu adnodd mawr ei angen ym mhentref Maerdy. Drwy gyfraniadau gan gontractwyr a chyflenwyr, buddsoddodd y tîm dros £30,000 i wella effeithlonrwydd ynni'r clwb. Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys, to newydd wedi'i inswleiddio ac insiwleiddio'r waliau allanol. Fodd bynnag, ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl oni bai am y llafur rhad ac am ddim a ddarparwyd gan STS Gibson, sydd wedi eu lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a rhodd o ddeunyddiau gan SPS Envirowall.

Fe symudodd y clwb y llynedd i adeilad segur yng nghanol Maerdy. Fe weithiodd Brett Parry a chefnogwyr eraill y clwb yn ddiflino i glirio'r adeilad. Rhoddodd y cwmni adeiladu lleol Enya o'u hamser i helpu i baratoi'r adeilad a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Meddai Brett Parry, hyfforddwr yn y clwb: "Ni fyddai'r clwb fel y mae heddiw heb help a chefnogaeth contractwyr a chyflenwyr fframwaith Cartrefi Melin '. Mae paffio yn caniatáu i'r plant gymdeithasu, ymarfer a dysgu hunanamddiffyn a disgyblaeth. "

Heb gynllun Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ni fyddai'r gymuned leol wedi cael unrhyw fudd o gwbl. Fe dderbyniodd tai lleol ystod o welliannau effeithlonrwydd ynni, yn cynnwys systemau gwres canolog newydd, rheolyddion gwres, a dyfeisiau i arbed arian ar filiau trydan.
Ychwanegodd Mark Gardner, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: "Mae effaith cynllun Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru wedi bod yn enfawr ac rydym mor falch o'n rhan yn ei lwyddiant. Rydym hefyd yn falch o brosiectau cymunedol fel hyn ac rydym yn sicrhau eu bod wrth wraidd popeth a wnawn."

Yn ôl i newyddion