Yn ôl i newyddion

Chocs Away

Rydym wedi casglu ein holl nwyddau Nadolig oedd dros ben a'u rhoi i Eden Gate, elusen y digartref yng Nghasnewydd.

Ysgrifennwyd gan Fiona

03 Chwef, 2017

Chocs Away
Gill, Is-gadeirydd yr ymddiriedolwyr (chwith) a Jan (dde) gwirfoddolwr hirsefydlog a dderbyniodd y rhodd. Meddai Marc, Rheolwr Gweithredu Eden Gate; "Diolch i chi am eich rhodd, sef y nwyddau Nadolig a oedd dros ben, a'ch cefnogaeth barhaus tuag at Eden Gate. Mae rhoddion fel siocled a chacen bob amser yn taro'r nod ymhlith ein gwesteion! Mae llawer o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol, meithrin ymddiriedaeth a chwalu rhwystrau gyda'n gwesteion. Mae hyn cymaint yn haws pan fydd siocled a chacen ar gael! Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd."

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn noddi ymgyrch Sunday Munch Eden Gate ar 19 Chwefror, drwy ddarparu 40 o fagiau bwyd sy'n cynnwys brechdan, diod, ffrwythau, cacen a chreision. Mae gennym hefyd dri aelod o staff fydd yn rhoi o'u hamser i baratoi a dosbarthu'r bagiau; cadwch lygad yma am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Eden Gate hefyd yn codi arian i uwchraddio eu cerbydau lloches nos, a byddent yn croesawu unrhyw rodd waeth pa mor fach, felly beth am ymweld â'u tudalen Total Giving?

Yn ôl i newyddion