Yn ôl i newyddion

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol i bobl mewn gwaith neu allan o waith, sy’n cyfuno rhai o’r budd-daliadau a chredyd treth rydych yn eu derbyn nawr.

Ysgrifennwyd gan Marcus

30 Mai, 2017

Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol i bobl mewn gwaith neu allan o waith, sy’n cyfuno rhai o’r budd-daliadau a chredyd treth rydych yn eu derbyn nawr. Ym mis Gorffennaf, bydd gan Dorfaen ‘wasanaeth digidol llawn’ ar gyfer y Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu na fydd trigolion Torfaen yn medru hawlio eu budd-daliadau blaenorol gan y byddant oll yn cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu hefyd y bydd y gwasanaeth yn un arlein; felly, bydd gwneud cais, rheoli neu ddiweddaru cais ac unrhyw gyfathrebu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau oll yn digwydd arlein.


Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol neu os ydych angen unrhyw gyngor ar hyn, cysylltwch â’r tîm Cyngor Ariannol trwy anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol, defnyddio’r cyfleustra sgwrsio ar ein gwefan, e-bostio moneyadvice@melinhomes.co.uk n neu ffonio 01495 745910.

Yn ôl i newyddion