Yn ôl i newyddion

Credyd Cynhwysol: Y Diweddaraf

Credyd Cynhwysol: Y Diweddaraf

Ysgrifennwyd gan Marcus

08 Mai, 2017

talk to us
Ar hyn o bryd mae CC yn berthnasol ond i nifer fechan yng Nghymru, ond mae hyn yn newid cyn hir.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle’r budd-daliadau canlynol:
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Credydau Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
Dyddiadau’r newid yma yw:

  • Gorff 2017 Torfaen
  • Tach 2017 Casnewydd
  • Maw 2018 Sir Fynwy
  • Ebr 2018 Blaenau Gwent
  • Meh 2018 Powys
Gellir hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein - Os ydych chi angen cymorth gyda’r broses hawlio neu ddeall Credyd Cynhwysol gall ein Tîm Cyngor Arian helpu. Telir Credyd Cynhwysol pob mis calendr, felly os ydych chi wedi gwneud cais ni fyddwch yn derbyn arian am 5-6 wythnos felly cysylltwch i weld pa gymorth sydd ar gael.

Nodwch os gwelwch yn dda os gwahoddir chi i wneud cais am Gredyd Cynhwysol gyda’r Adran Waith a Phensiynau bydd gofyn i chi wneud cais ar wahân i gael cymorth gyda Threth y Cyngor yn uniongyrchol at eich cyngor lle.

Yn ôl i newyddion