Yn ôl i newyddion

Peidiwch â cholli allan – Prydau bwyd ysgol am ddim

Mae cofrestru i gael prydau bwyd ysgol am ddim yn hawdd ac yn gyfrinachol a gallai arbed hyd at £400 y flwyddyn.

Ysgrifennwyd gan Sam

20 Medi, 2016

Free school meals

Mae cofrestru i gael prydau bwyd ysgol am ddim yn hawdd ac yn gyfrinachol a gallai arbed hyd at £400 y flwyddyn.

Medrwch ei wneud o gysur eich cartref, ac nid oes yn rhaid i’r ysgol wybod.

Mae gan y mwyafrif o ysgolion systemau sy’n golygu ei bod yn amhosibl i ddisgyblion eraill wybod pwy sy’n derbyn prydau bwyd ysgol am ddim.

Mae cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim yn gadael i’r ysgol fanteisio ar y cyllid a gallai hefyd olygu eich bod yn gymwys i dderbyn help arall.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim?

Efallai bod gan blant rhieni/gofalwyr sy’n derbyn unrhyw un o’r taliadau cymorth canlynol hawl i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim mewn ysgolion awdurdod lleol.

  • Cymorth Incwm.
  • Lwfans Ceisio Swydd seiliedig ar incwm.
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm.
  • Credyd Treth Plant, cyn belled â nad ydynt yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nid yw eu hincwm blynyddol yn fwy na £16,190.
  • Elfen warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
  • ‘Parhad’ Credyd Treth Gwaith – y tâl y mae rhywun yn ei dderbyn am bedair wythnos bellach ar ôl peidio â bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith.
  • Gweler isod am ddolennau i dudalennau gwefan cynghorau lleol lle medrwch wneud cais am brydau bwyd ysgol am ddim:

Cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim yn Sir Fynwy
Cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim yn Nhorfaen
Cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim ym Mhowys
Cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim ym Mlaenau Gwent
Cofrestru am brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghasnewydd

Yn ôl i newyddion