Yn ôl i newyddion

Trefnu eich Archwiliad Diogelwch Nwy

Mae cadw eich cartref yn ddiogel yn bwysig iawn. Os nad yw offer nwy wedi ei osod a’i wasanaethu’n gywir, gall achosi problemau.

Ysgrifennwyd gan Marcus

13 Medi, 2017

Trefnu eich Archwiliad Diogelwch Nwy
Mae cadw eich cartref yn ddiogel yn bwysig iawn. Os nad yw offer nwy wedi ei osod a’i wasanaethu’n gywir, gall achosi problemau. Mae pob un o’n peirianwyr ar y Gofrestr Diogelwch Nwy; rhestr o beirianwyr nwy sy’n cael gweithio ar offer nwy dan y gyfraith. Mae’n bwysig eich bod yn trefnu eich gwasanaeth diogelwch nwy blynyddol gyda ni er mwyn cadw eich cartref yn ddiogel. Byddwch yn derbyn llythyr pan fo’n amser i chi gael eich archwiliad nwy, a medrwch wedyn gysylltu â ni i’w drefnu. Medrwch gysylltu ar y ffôn, ebost, sgwrsio byw, neges testun neu Facebook. Unwaith y byddwch wedi trefnu eich archwiliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn yr eiddo ar y dyddiad a’r amser a gytunwyd; medrwch adael y gweddill i ni. Os nad ydych yn mynd i fod ar gael, gadewch i ni wybod er mwyn i ni drefnu dyddiad arall sy’n addas i chi.

Yn ôl i newyddion