Yn ôl i newyddion

Tîm Cartrefi Melin yn rhoi dros £2filiwn yn ôl i bocedi trigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Mae Tîm Cyngor Arian Cartrefi Melin wedi rhoi dros £2filiwn yn ôl i bocedi trigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ysgrifennwyd gan Marcus

19 Mai, 2017

tîm-cartrefi-melin
Mae Tîm Cyngor Arian Cartrefi Melin wedi rhoi dros £2filiwn yn ôl i bocedi trigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trwy eu helpu i gael y budd-daliadau cywir, rheoli eu dyledion, gostwng biliau ynni, a chynrychioli trigolion mewn tribiwnlysoedd. Trwy gynnig cyngor ar y pynciau yma mae’r tîm yn bwriadu cyflwyno newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.

Cafodd un o’r trigolion, fe wnawn ni ei alw’n ‘John’ er mwyn gwarchod ei enw iawn, ei gynrychioli gan gynghorydd ariannol Gavin, a sicrhaodd £68,000 o ôl-daliad iddo ar ei bensiwn. “Daeth Gavin i fy ngweld yn fy nghartref a’m helpu; doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod gen i hawl i’r arian. Mae e wedi newid fy mywyd” meddai ‘John’.

Dywedodd Claire Pearce-Crawford, rheolwr Incwm a Chynhwysiant; “Gall gyngor ariannol o ansawdd newid bywydau ac mae £2 filiwn ym mhocedi pobl yn dangos sut y gallwn gael effaith cadarnhaol ar fywydau trigolion. Mae gwneud y mwyaf o incwm a gwella iechyd a lles yn gwella gallu ein trigolion i ddelio’n annibynnol gyda’r diwygiadau sy’n dod i fudd-daliadau.”

Gall drigolion sydd angen help gysylltu â Thîm Cyngor Ariannol Melin ar 01495 745910 neu e-bostio moneyadvice@melinhomes.co.uk , neu ddanfon neges testun i 07860027935

Yn ôl i newyddion