Yn ôl i newyddion

Y Cap Budd-daliadau - diweddariad

Bydd y cap budd-daliadau cyfan yn taro deg gwaith mwy o deuluoedd yng Nghymru pan gaiff ei leihau o Dachwedd ymlaen, yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Tai Siartredig

Ysgrifennwyd gan Marcus

03 Tach, 2016

y-cap-budd-daliadau
Bydd y cap budd-daliadau cyfan yn taro deg gwaith mwy o deuluoedd yng Nghymru pan gaiff ei leihau o Dachwedd ymlaen, yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Tai Siartredig. Mae hyn y golygu bod bron i 6,000 o deuluoedd yn debygol o gael eu heffeithio. Bydd y mwyafswm newydd o £20,000 yn taro 5,844 o deuluoedd o gymharu â dim ond 586 gyda’r mwyafswm presennol o £26,000 o fudd-daliadau y gall un cartref dderbyn oni bai bod un o’r eithriadau yn berthnasol. Mae’r Sefydliad hefyd wedi trefnu ymchwil ar draws y DU sy’n dangos y bydd y cap yn taro 116,000 o deuluoedd ar draws y sector rhentu cymdeithasol a phreifat, y mae y rhan fwyaf ohonynt yn deuluoedd â dau neu dri o blant, i fyny at £115 yr wythnos. Mae dros 300,000 o blant mewn teuluoedd o’r fath yn y DU.

Gallwch fynd at Gyfrifiannell y Llywodraeth i weld a ydych chi’n mynd i gael eich effeithio.

Bydd maint y cap a’r budd-daliadau sy’n cael eu heffeithio gan y cap yn newid ar 7 Tachwedd 2016. Mae’n bwysig bod trigolion sy’n cael eu heffeithio yn cysylltu â’r Tîm Cyngor Arian, sydd wrth law i helpu gyda phethau yn ymwneud ag arian. Gallwch gysylltu â’r tîm trwy ddanfon neges yma, e-bostio moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffonio 01495 745910.



Yn ôl i newyddion