Cod Parch Melin
Fel un o drigolion Melin gallwch ddisgwyl cael eich trin yn deg a gyda pharch. Dyma yw ein Cod Parch sy'n amlinellu sut y byddwn yn ymddwyn tuag atoch a beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi yn gyfnewid.
- Disgwylir i’n staff a chontractwyr drin trigolion gyda chwrteisi bob amser. Dychwelwch yr un cwrteisi os gwelwch yn dda.
- Pan fyddwch yn gofyn m wasanaeth byddwch yn barod i roi cymaint o wybodaeth ag y medrwch gan ateb cwestiynau yn onest. Gorau po fwyaf o wybodaeth gywir fydd gennym, hawsach oll fydd hi i ni ddelio â’ch ymholiadau mewn ffordd brydlon.
- Byddwn bob amser yn egluro’r hyn y medrwn ei wneud wrth ymateb i’ch ceisiadau a phan na fyddwn, pam. Byddwch yn barod i wrando.
- Peidiwch â defnyddio iaith ymosodol pan fyddwch yn delio gyda’n staff neu gontractwyr.
- Ni fyddwn yn derbyn bygythiadau neu drais yn erbyn unrhyw aelod o staff na chontractwyr. Byddwn yn dilyn camau gweithredu os bydd y fath achosion yn codi.
- Mae gennym ddyletswydd i gynnal a chadw ein heiddo. Cofiwch eu trin â pharch. Byddwn yn cosbi unrhyw un sy’n achosi difrod yn bwrpasol.
- Mae gennych chi a’ch cymdogion hawl i fwynhau eich cartref a hynny’n mewn ffordd heddychlon. Cofiwch fod eich ymddygiad chi yn effeithio eraill a chofiwch drin eich cymdogion fel y byddech yn disgwyl cael eich trin eich hun.
- Os ydych yn cael problemau rhowch wybod i ni cyn i’r broblem waethygu.
- Rhowch wybod i ni os bydd eich amgylchiadau yn newid er mwyn i ni fedru parhau i fodloni eich anghenion.
- A fyddech cystal â chadw apwyntiadau gyda chontractwyr a staff. Os, am unrhyw reswm, bydd angen i chi ganslo, rhowch wybod i ni, gan gofio rhoi cymaint o rybudd ag y medrwch.
- Rydym am helpu. Cofiwch ddweud wrthym os bydd eich manylion cyswllt yn newid ac ymatebwch os gwyddoch ein bod yn ceisio cysylltu â chi.
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg, gallwch gwyno. Dywedwch wrthym beth sydd wedi digwydd drwy e-bostio qualitymanagement@melinhomes.co.uk.
Gallwch hefyd riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.