Cant o leisiau
Pwy ydym ni?
Rydym yn drigolion sy'n awyddus i rannu ein barn a llunio'r gwasanaethau y mae Melin yn eu darparu. Hyd yn hyn mae ein haelodaeth yn 165 ac mae ein barn eisoes wedi cael effaith ar y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'r ffordd y mae trigolion yn cael gwybod am y gwasanaethau hynny. Trwy fod yn rhan o'r grŵp hwn, gallwch wneud gwahaniaeth positif trwy ddweud eich barn wrth Melin.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae'r mwyafrif o aelodau ar-lein ac maent yn ateb arolygon sy'n cael eu hanfon trwy e-bost. Maen nhw'n cymryd cwpl o funudau i'w hateb a gallwch chi ddewis pa rai rydych chi'n cymryd rhan ynddynt, felly os oes rhywbeth sydd o ddiddordeb arbennig i chi, yna gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn trwy fod yn rhan o'r sgwrs.
Mae yna hefyd dri grŵp ffocws y gall pobl ymuno â nhw, sy'n golygu cyfarfod yn rheolaidd ym Mhencadlys Melin ym Mhont-y-pŵl.
Dyma nhw:
- Y Grŵp Cymunedol – maen nhw’n cyfarfod gyda’r Tîm Cymunedau i gynllunio ac ariannu digwyddiadau yn y gymdogaeth
- Y Grŵp Anabledd – aelodau 100 o Leisiau sydd â phrofiad o anabledd ac sydd am wella bywydau trigolion ag anableddau. Maent yn cyfarfod bob deufis.
- Y Grŵp Gwasanaeth Cwsmeriaid – Maen nhw’n craffu ar y gwasanaeth y mae Melin yn ei ddarparu ac yn cynnig argymhellion i wella’r gwasanaeth. Maen nhw’n cwrdd yn ôl y gofyn i gwblhau adroddiadau.
Yr hanes hyd yma
Mae pobl sydd naill ai wedi ymuno â'r grwpiau neu wedi ateb arolygon ar-lein eisoes wedi rhoi llawer iawn o help inni sicrhau bod ein gwasanaethau y gorau y gallant fod. Dyma rai o'r meysydd y mae'r lleisiau wedi dylanwadu arnynt:
Gwerth am Arian
- Dywedoch fod ein dogfen GaA yn rhy eiriog ac yn anodd ei deall
- Ddefnyddiom luniau a thablau a lleihau’r testun i’w wneud yn haws ei deall.
Adolygu’r Cynnal a Chadw a gynllunnir
- Dywedoch eich bod am gael gwybod y diweddaraf am bob cam yn y broses o osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd
- Rydym nawr yn anfon yr amserlen waith atoch fisoedd ymlaen llaw, fel y gallwch gynllunio o’i hamgylch.
Blaenoriaethau tai cenedlaethol
- Mae eich dylanwad yn mynd yn bell wrth i aelodau'r grŵp ddweud wrthym beth oedd yn bwysig i chi. Dywedoch y dylai landlordiaid yng Nghymru wrando a gweithredu ar farn tenantiaid lle bo’n bosibl ynghyd ag ymchwilio i ffyrdd o helpu’r rhai mwy agored i niwed
- Fe wnaethom fwydo'ch barn yn ôl i Lywodraeth Cymru trwy'r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid
Dod yn fuan…
Yn y misoedd nesaf gofynnir am farn y grŵp ar:
- Sut y gallwn gyfleu newidiadau i’r gwasanaeth i’n trigolion
- Y darnau gosod ac ati a gynigir wrth osod ceginau newydd
- Gwaredu ar sbwriel a’i ailgylchu
- Cyfranogiad Pobl Ifanc
I fod yn rhan o’r sgwrs a dod yn un o’n lleisiau, anfonwch e-bost at y cadeirydd, Natalie Gardner ar 100voices@melinhomes.co.uk