Chi, ni a CC
Rydym yn deall y gall Credyd Cynhwysol fod yn anodd ei ddeall, felly rydym wedi rhoi nodiadau esboniadol isod. Os ydych angen help, mae ein tîm Cyngor Ariannol wastad yma i helpu.
Felly, beth yw CC?
Mae CC, neu Gredyd Cynhwysol, yn un taliad misol a delir am yn ôl, yn cynnwys chwe budd-dal unigol:
- Lwfans Chwilio am Swydd Seiliedig ar Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant
- Cymorth Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chynhaliaeth Seiliedig ar Incwm

Beth sy’n newid rhyngom ni a chi?
Bydd angen i chi dalu eich rhent i ni. Ond bydd angen i chi wneud cais ar wahân am y Dreth Gyngor yn uniongyrchol gyda’ch awdurdod lleol
Sut medrwch baratoi?
Bydd angen i chi fedru cofrestru (yn GOV.UK), hawlio a delio gyda CC.
Dylech wneud yn siŵr bod gennych gyfrif banc. Gellir talu CC i mewn i Gyfrif Cyfredol, Cyfrif Banc Sylfaenol, Cyfrif Undeb Credyd, Cyfrif Cerdyn y Swyddfa Bost neu Gyfrif Cerdyn Rhagdaledig. Os nad oes gennych gyfrif, gellir gwneud hynny arlein neu yn y gangen. Os nad ydych yn siŵr, holwch aelod staff mewn unrhyw fanc pa gyfrif yw’r gorau i chi.
Beth nesaf?
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, bydd angen i chi fynd i’r Ganolfan Waith am gyfweliad, darparu dogfennau a llofnodi’r gwaith papur.
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth?
Medrwn helpu! Mae gennym dîm o gynghorwyr ariannol wedi eu hyfforddi yn ein tîm Incwm a Chynhwysiant. Rydym eisiau i chi siarad gyda ni; ni fedrwn helpu os nad ydym yn gwybod. Mae nifer o fudiadau eraill a fedr helpu; Turn2us, Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, Cyngor ar Bopeth, Llinell Ddyledion Genedlaethol and Step Change.