Cronfa ‘Jump’
Grantiau cymunedol sydd o fudd i chi!
Mae ein Cronfa ‘Jump’ yn darparu grantiau o hyd at £250 ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i’n trigolion, eu teuluoedd a’n cymunedau.
Gellir defnyddio cronfa ‘Jump’ ar gyfer:
- Gwelliannau i’r amgylchedd – ee cynlluniau plannu cymunol
- Budd cymdeithasol – ee offer ar gyfer neuaddau cymunedol a grwpiau chware
- Clybiau chwaraeon/ieuenctid – ee i ariannu citiau, hyfforddiant ac offer
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Gronfa ‘Jump’ Melin, lawr lwythwch y ffurflen gais yma a'i dychwelyd atom drwy e-bost neu drwy'r post i:
Cronfa 'Jump'
Cartrefi Melin
Tŷ’r Efail
Lower Mill Field
Pont-y-pŵl
NP4 0XJ.
Canllawiau Cyfarwyddyd i Ymgeiswyr
Pwy all wneud cais?
Mae Cronfa 'Jump' ar agor i drigolion Melin, grwpiau gwirfoddol a grwpiau di-elw sy'n gweithio yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen a Phowys.
Rhaid i geisiadau ddangos yn glir y manteision arfaethedig i drigolion Melin a'n cymunedau. Os oes gennym fwy o geisiadau nag y gallwn eu hariannu, bydd y grantiau yn cael eu dyfarnu ar sail y rhai sydd o'r budd mwyaf. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ystod o brosiectau yn derbyn cefnogaeth.
Rheolau
- Rhaid bod gan ymgeiswyr gyfrif grŵp / busnes. Ni allwn ddarparu sieciau i unigolion;
- Rhaid bod logo Melin yn cael ei ddefnyddio ar unrhyw ddeunydd hyrwyddo, ee crysau chwaraeon, a thrwy dderbyn grant rhaid i chi gytuno i gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd a ffotograffau i helpu i hyrwyddo'r gronfa;
- Rhaid defnyddio'r grantiau ar gyfer y gweithgareddau a nodwyd yn eich cais ac nid am unrhyw reswm arall oni bai iddynt gael eu cymeradwyo wedi hynny gan ein panel dethol;
- Bydd angen i chi ddarparu dyfynbrisiau yn eich cais a darparu derbynebau
a chyfriflenni banc i ddangos sut rydych wedi gwario'r arian.
Ni ellir defnyddio’r gronfa ar gyfer unrhyw rai o’r canlynol:
- Digwyddiadau untro sy’n annhebygol o gael effaith parhaus;
- Nawdd ar gyfer elusennau cenedlaethol neu fentrau teithio elusennol – ee reidiau beic neu farchogaeth;
- Gwaith ar dir neu eiddo preifat;
- Prosiect ysgol nad yw’n cynnwys y gymuned ehangach;
- I ategu at gyllid sydd eisoes yn bodoli;
- I gefnogi grwpiau gwleidyddol, crefyddol neu grwpiau ‘lobi’.
Sut byddaf yn gwybod os yw fy cais wedi bod yn llwyddiannus?
Unwaith y bydd ein panel dethol wedi cyfarfod, byddwch yn cael gwybod o fewn 10 diwrnod gwaith os yw eich cais yn llwyddiannus ai peidio.
Dilynwch ni ar Facebook i gael mwy o newyddion a gwybodaeth am ein Cronfa 'Jump'.