Eich arian
Eich arian
Mae hi'n gyfnod anodd a gall diffyg arian achosi straen i lawer ohonom. Oherwydd ein bod yn deall y gall rheoli arian fod yn anodd, mae gennym dîm ymroddedig o Ymgynghorwyr Ariannol, sydd yma i'ch helpu i wneud i bob punt gyfrif. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bob un o drigolion Melin.
Bydd ein Hymgynghorwyr Ariannol achrededig yn :
· Rhoi’r cyngor gorau ar arian a sut i rheoli materion ariannol yn eich cartref.
· Byddant wrth law i gynnig cyngor sylfaenol am gyllidebu;
· Cymorth gyda cheisiadau grant am nwyddau hanfodol yn y cartref, fel dodrefn a nwyddau trydanol a help gyda thalu eich biliau.
· Cynnig gwasanaeth cynghori, cyfrinachol a rhad ac am ddim gan Ymgynghorwyr Ariannol;
· Gwiriad budd-daliadau rhad ac am ddim;
· Cyngor diduedd wyneb yn wyneb, rhad ac am ddim a chyngor arbenigol ar ddyled
· Cymorth gyda thribiwnlysoedd neu apeliadau
· Cyngor ar ddim am ynni a allai eich helpu i arbed arian ar eich biliau;
· Cyngor arbenigol ar fudd-daliadau, gyda phethau fel Credyd Cynhwysol a’r Cap Budd-daliadau;
· Cymorth i agor cyfrif banc neu gyfrif cynilion
· Cymorth i gael parsel bwyd.
· Byddwn yn eich darparu â chefnogaeth o ddechrau eich tenantiaeth, drwy gynnig cyngor arbenigol ar arian
I gael mwy o gyngor wedi ei deilwra ar eich cyfer, e-bostiwch moneyadvice@melinhomes.co.uk neu rhowch alwad i ni’n gyfrinachol ar 01495 745910.
Hefyd yn yr adran hon:
Ffyrdd i dalu
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu sy’n addas i chi. Fe gewch wybod mwy yn yr adran hon
Mwy o gyngor ariannol
Mae yna nifer o asiantaethau y gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â hwy, i’ch helpu gydag ymholiadau eraill yn ymwneud â materion ariannol.
Eich budd-daliadau
Yma, gallwch gael y diweddaraf am y newidiadau i fudd-daliadau’r wladwriaeth a sut y gallent effeithio arnoch chi.
Bwrsarïau addysg
Darganfyddwch a fedrwch wneud cais am gymorth ariannol i ddatblygu eich addysg.