Ein Bwrdd
Nid oes amheuaeth bod y sector tai cymdeithasol yn cael effaith fawr ar fywydau miloedd o bobl ar draws y wlad, bob dydd. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y bobl ar fyrddau’r sefydliadau hyn yn gwneud penderfyniadau sy’n creu gadarnhaol a hirdymor ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Julie Thomas RNMH, DipN, MSc (Gofal Iechyd)
Cadeirydd
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Rhanbarthol wedi ymddeol, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Anthony Hearn
Is-gadeirydd
Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau gyda Chartrefi Cymoedd Merthyr
Wendy Bowler MSc (Iechyd); MSc Cert, Astudiaethau Achyddol, Palaeograffeg a Herodrol
Ar ôl gyrfa yn y gwasanaeth sifil ac yna mewn Iechyd cyhoeddus, mae Wendy nawr yn achydd proffesiynol.
Lisa Howells
Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ar gyfer y Curo Group gydag 20 mlynedd o brofiad yn y sector tai; aelod o Ffederasiwn Adeiladwyr Tai a’r Ffederasiwn Dai Genedlaethol.
Cliff Jones
Banciwr wedi ymddeol, Cynghorydd Ariannol a Chyfarwyddwr Perthynas ar gyfer y Sector Tai Cymdeithasol, Addysg ac Awdurdodau Lleol ar gyfer Barclays yng Nghymru.
Sarah Bees
Mae gan Sarah gefndir iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ar hyn o bryd yn Swyddog Polisi a Phrosiect ar gyfer Tîm Partneriaeth Rhanbarthol Gwent.
John Jackson
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad marchnata, mae John yn ymgynghorydd marchnata strategol. Mae ei bractis preifat yn arbenigo mewn datblygiad brand, strategaeth arloesi a chyfathrebu marchnata.
Gareth Thomas
Cychwynnodd Gareth ei yrfa fel saer gyda Chyngor Powys gan weithio ei ffordd i fyny i HNC mewn Adeiladu. Symudodd yn ddiweddar i Alliance Homes yn Lloegr fel Rheolwr Technegol, ac roedd eisiau parhau i fod yn rhan o’r maes tai yng Nghymru felly ymunodd â’n bwrdd.
Martin Reed
Mae Martin yn gyfarwyddwr cyllid sydd bellach wedi ymddeol o Fragdy Brains. Roedd wedi gweithio yno am 17 o flynyddoedd cyn iddo ymddeol ym mis Mehefin 2019. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Welsh Whisky.
Paula Kennedy
Penodwyd Paula yn ddiweddar yn Brif Weithredwr Cartrefi Melin a bu'n gweithio yn y maes arweinyddiaeth am dros 20 mlynedd yn ystod ei gyrfa. Yn Brif Weithredwr gynt gyda Chymdeithas Tai Brunelcare, dechreuodd ei gyrfa yn y maes tai ym 1990 fel Swyddog Tai gyda Thai i Ferched.
Peter Crockett
Mae Peter wedi gweithio mewn swyddi uwch yn y sector cymdeithasau tai er 1995 lle cafodd brofiad sylweddol ym mhobagwedd ar weithgareddau masnachol gan gynnwys cyllid strategol, cyllido benthyciadau, datblygu a'r holl wasanaethaucymorth eraill.