Yn ôl i newyddion

Digwyddiad llwyddiant i rhanddeiliaid

Fe wnaethom ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed gyda'n rhanddeiliaid a phartneriaid y bore yma. Agorodd Peter Crockett y digwyddiad drwy amlinellu rhai o'n cyflawniadau dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Ysgrifennwyd gan Fiona

26 Ebr, 2017

Digwyddiad llwyddiant i rhanddeiliaid
Fe wnaethom ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed gyda'n rhanddeiliaid a phartneriaid y bore yma. Agorodd Peter Crockett y digwyddiad drwy amlinellu rhai o'n cyflawniadau dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Roedd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a siaradwraig wadd, yn falch iawn i siarad yn y digwyddiad ac yn ein llongyfarch am mai ni yw'r gymdeithas tai gyntaf i gofrestru ar gyfer y cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Moesegol mewn cadwyni cyflenwi, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr cyflog byw gyda'r disgwyl y bydd ein cyflenwyr yn cofrestru hefyd. Dywedodd Ms Howe: "Mae Melin yn rhan hanfodol o weledigaeth gyfannol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy rymuso pobl i fyw y bywydau gorau y gallant. Tai yw'r curiad calon cymunedau cynaliadwy."

Siaradodd Paula Kennedy am ein gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a sut mae pawb, yn enwedig y rhanddeiliaid a staff yn chwarae rhan hanfodol wrth ffurfio'r dyfodol. Meddai Paula:

"Mae gennym rôl i'w chwarae o ran sicrhau bod ein cymunedau yn ffynnu; mae yna adegau cyffrous o'n blaenau."

Mynychodd dros 90 o rhanddeiliaid y digwyddiad gan fwynhau rôl bacwn a bag nwyddau. Dywedodd Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai Llywodraeth Cymru: "Roedd yn wych clywed am waith Melin hyd yma a'u hymrwymiad i agenda Cenedlaethau'r Dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd y 10 mlynedd nesaf yr un mor llwyddiannus."

Mae rhanddeiliaid hefyd wedi cofrestru ar ein menter Vol10 gyda chyfanswm yr oriau yn cyrraedd ychydig dros 3,600. Gall unrhyw un addo i gwblhau oriau gwirfoddol a’n helpu i gyrraedd ein nod o 10,000 o oriau! Gallwch roi eich addewid yma.

Yn ôl i newyddion