Yn ôl i newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2021

Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2021 yw #DewisHerio. Mae DRhM yn ddiwrnod da i herio ni’n hunain, nid yn unig am yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni mewn perthynas â chydbwysedd rhywedd ym Melin ond hefyd yn fwy eang, oherwydd, er ein bod ni’n gallu dathlu bod ein bwlch cyflog yn ôl rhyw yn sero, rydym yn gwybod bod llawer gennym i’w wneud i fod yn sefydliad gwirioneddol amrywiol a chynhwysol.

Ysgrifennwyd gan Fiona

03 Maw, 2021

Paula Kennedy

Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2021 yw #DewisHerio. Mae DRhM yn ddiwrnod da i herio ni’n hunain, nid yn unig am yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni mewn perthynas â chydbwysedd rhywedd ym Melin ond hefyd yn fwy eang, oherwydd, er ein bod ni’n gallu dathlu bod ein bwlch cyflog yn ôl rhyw yn sero, rydym yn gwybod bod llawer gennym i’w wneud i fod yn sefydliad gwirioneddol amrywiol a chynhwysol.

Dyma pam yr ydym yn parhau i weithio gyda Thai Pawb i adeiladu ar achrediad gwobr QED a pham ein bod wedi gosod targed o gynyddu amrywiaeth ein gweithlu.

Paula Kennedy talks about why International Women’s Day is important, and why at Melin we #ChoosetoChallenge.

Beth mae hynny’n golygu a pham bod hyn mor bwysig i Melin?

Yn ei hanfod, mae amrywiaeth yn y gweithlu’n golygu y byddem yn cyflogi gweithlu sy’n cynnwys pobl sy’n amrywiol o ran rhywedd, oedran, crefydd, hil, ethnigrwydd, cefndir diwylliannol, tueddiad rhywiol, ieithoedd, addysg a galluoedd, ar draws pob rhan o’n busnes. Ond mae’n golygu mwy na chyflogi grŵp amrywiol o bobl newydd, mae’n golygu meithrin amgylchedd mwy cynhwysol a charedig sy’n caniatáu i’n staff rhoi’r gorau, waeth beth sy’n eu gwneud yn wahanol i’w cydweithwyr.

Ym Melin mae ein her amrywiaeth yn amrywio o dîm i dîm, ac rydym am i’r timau hynny feddwl am eu blaenoriaethau a’r hyn allan nhw ei wneud i ateb yr her. Gallai hyn fod yn well cydbwysedd rhywedd yn y Tîm Asedau, mwy o bobl o grwpiau ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol yn yr adran Dai neu ragor o bobl ag anabledd yn y timau Diwylliant ac Arloesi. Beth bynnag yw ein ffocws mae ein targed corfforaethol yn golygu nad yw gwneud dim yn opsiwn.

Cael gweithlu amrywiol a chynhwysol yw’r peth iawn i’w wneud ond, yn fwy na hynny, mae’n gwneud synnwyr busnes da. Mae gweithlu mwy amrywiol yn rhoi timau mwy cyflawn i chi gyda mynediad at amrywiaeth o farn gan bobl sydd â phrofiadau gwahanol. Mae’r mewnwelediadau yma’n llawer mwy tebygol o arwain at waith creadigol ac arloesol, oherwydd eich bod yn fwy tebygol o gyrraedd casgliad unigryw os oes gennych nifer o syniadau, agweddau, profiadau a barn gennych yn dod at ei gilydd. Mae yna ymchwil hefyd sy’n dangos bod timau amrywiol yn gallu datrys problemau’n fwy cyflym oherwydd eu bod yn meddwl am amrywiaeth mwy eang o atebion ac yn gallu asesu’r atebion yma mewn ffordd ymarferol ac ystyriol.

Os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn sefydliad ar bob lefel a bod eu llais cael ei glywed, yna maen nhw’n fwy tebygol o ymgysylltu ac aros yn ffyddlon a thriw i’r sefydliad hwnnw. Trwy adael i bobl wybod ein bod ni’n eu parchu a’u gwerthfawrogi trwy ein geiriau a’n gweithredoedd gallwn ddibynnu ar eu hymrwymiad i weithio i gael y gorau i ni a’n trigolion.

Ac yn olaf

Ac yn olaf, dylai sefydliadau da yn yr 21ain ganrif adlewyrchu cymdeithas. Dyw’r gymdeithas yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddi ddim yn un o un rhywedd, un hil nac un grŵp oedran ac mae’r ardaloedd yr ydym yn byw a gweithio ynddyn nhw yn amrywiol ac yn llawn pobl wahanol ac amrywiol, a dylem ni ym Melin adlewyrchu hynny. Po fwyaf y lleisiau amrywiol yn ein gweithlu, dyfnach bydd ein dealltwriaeth o amrywiaeth mwy eang ein trigolion a’u cymunedau.

Pan eich bod yn ystyried hyn i gyd, pam na fyddech chi am herio chi’ch hunain i greu sefydliad amrywiol a chynhwysol? #DewisHerio

Siaradodd Emily â ni ynglŷn â pham ei bod yn caru ei swydd ac yn #DewisHerio

Emily standing by a Melin van

Ymgymerodd Emily â phrentisiaeth paentio ac addurno gyda’n partneriaid yn Y Prentis yn 2018 ac ymunodd â’n Tîm Cynnal a Chadw ar yr un pryd ag astudio ar gyfer cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn paentio ac addurno. Ar ôl cwblhau ei chymhwyster, sicrhaodd Emily waith amser llawn gyda ni fel gweithiwr aml-sgil.

Rwy’n credu ei fod yn bwysig i fenywod fod â swyddi mewn adeiladwaith, er mwyn dangos bod menywod yn gallu gwneud unrhyw beth y gall dynion ei wneud. Pe bawn i’n gallu rhoi cyngor i fi fy hun pan oeddwn yn ifanc, y cyngor fyddai mynd amdani’n syth – peidiwch ag aros am flynyddoedd oherwydd diffyg hyder.

“Rwy’n dewis herio’r syniad na all menywod ddal swyddi mewn adeiladwaith, a dyma’r cam gorau wnes i. Bûm yn chwarae a’r syniad o fod yn beintiwr ers blynyddoedd, a meddwl na allwn i wneud hynny oherwydd mai merch ydw i. Rwy’n hynod falch fy mod i wedi #dewisherio, Rydw i wrth fy modd gyda fy ngyrfa.

Emily

Siaradodd Katie â ni ynglŷn â pham ei bod hi wedi #DewisHerio ac ymuno â ni fel prentis trydanydd

Katie standing by a Melin van

Gwirfoddolais gyda grŵp ieuenctid Melin am bedair blynedd ers pan oeddwn i’n 14 oed. Yn ystod yr amser yma, es i i ddigwyddiad gyda chontractwyr a sylweddolais i fod y diwydiant yn llawn dynion. Roeddwn i’n hoffi fod Melin yn angerddol ynglŷn â chynyddu amrywiaeth yn eu gweithlu, ac roedd hyn yn golygu llawer i fi hefyd. Gwirfoddolais gyda’r tîm trydanol ac ar ôl ychydig o ddyddiau penderfynais mai dyma’r swydd i mi.

Cofrestrais gyda darparwyr dysgu wrth weithio, mae’n rhaid i chi lwyddo mewn arholiadau sy’n rhoi prawf ar eich Mathemateg a Saesneg, ond fe wnes i. Bu dim ond rhaid i fi aros ychydig o fisoedd a daeth prentisiaeth ar gael ac roeddwn i’n llwyddiannus yn y cyfweliad.

Mae fy hyder wedi tyfu ac rydw i wedi sefydlu cyfrif Instagram i ysbrydoli eraill, mae’n ysgogiad cael menywod eraill sy’n gweithio yn y maes yn hoffi fy mhostiadau ac yn gwneud sylwadau ar y gwaith da'r ydyw i’n ei wneud.

Katie

Gallwch ddilyn siwrnai Katie ar Instagram trwy ddilyn @katiethetinyspark

#DewisHerio

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld