Yn ôl i newyddion

Ffair Nadolig Gynnil

Dewch draw i’n ‘Ffair Nadolig Gynnil’ Mis Tachwedd, yng Nghanol Cwmbrân.

Ysgrifennwyd gan Marcus

05 Tach, 2019

FfairNadoligGynnil
Dewch draw i’n ‘Ffair Nadolig Gynnil’ Mis Tachwedd, yng Nghanol Cwmbrân.

Bydd yna ddewis o stondinau ar gael i bori trwyddynt ar y dydd, yn cynnwys:

• Cyfnewidfa anrhegion
• Stondin grefftau
• Teganau cost isel
• Lapio anrhegion
• Eitemau dillad ail-law

Felly gallwch fod yn siŵr o fachu bargen!

Fe fydd hefyd gyfle i chi sgwrsio ag ystod o sefydliadau a allai helpu i wneud i'ch arian fynd ychydig bach ymhellach, mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Bydd côr yn canu'n fyw, gweithgareddau i blant ifanc a raffl. Bydd mwy o fanylion i ddilyn.

Sylwch: i gymryd rhan yn y gyfnewidfa anrhegion bydd angen i chi ddod ag unrhyw eitemau diangen sydd heb eu defnyddio a'u cyfnewid am anrheg sydd o werth cyfartal

Yn ôl i newyddion