Yn ôl i newyddion

Gallwch nawr gysylltu gyda ni ar WhatsApp

Efallai eich bod eisoes yn defnyddio WhatsApp i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Os yw’r ap gennych ar eich ffôn, gwnewch nodyn o’n rhif WhatsApp ni +447830365910. Bydd aelod o’n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yno i ateb eich negeseuon yn ystod oriau swyddfa, Llun – Gwener, 8am hyd at 5pm.

Ysgrifennwyd gan Sam

02 Chwef, 2021

Whatsapp Logo

Os oes gennych gwestiwn am eich rhent, os ydych eisiau adrodd am waith trwsio, trefnu ymweliad neu os ydych eisiau gweld pryd y mae’n amser i wasanaethu eich cyflenwad nwy, anfonwch neges atom ar WhatsApp.

Pam defnyddio WhatsApp?

  • Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio
  • Byddwch yn derbyn hysbysiad i adael i chi wybod ein bod gweld y neges
  • Gallwch gysylltu gyda ni ar unwaith lle bynnag yr ydych heb orfod aros ar y ffôn.

Newydd i WhatsApp? Os nad yw’r ap gennych eisoes, gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn symudol neu gyfrifiadur. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan WhatsApp.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld