Yn ôl i newyddion

Help llaw gan Swyddog Tai

Mae ein Swyddog Tai yn y Gymdogaeth, Kate, wedi gweithio’n galed i helpu un teulu i aros gyda’i gilydd

Ysgrifennwyd gan Sam

23 Ebr, 2020

Swyddog Tai, Kate
Mae ein Swyddog Tai yn y Gymdogaeth, Kate, wedi gweithio’n galed i helpu un teulu i aros gyda’i gilydd. Am tua blwyddyn mae hi wedi cefnogi un o'n trigolion a oedd yn ei chael yn anodd cadw eu cartref mewn cyflwr da ac sydd â phlentyn ag anghenion cymhleth. Roedd cymdogion wedi mynegi pryderon am les y plentyn a chyflwr y cartref, felly gweithiodd Kate gyda’r unigolyn ar gynllun gwaith i fynd i’r afael â’r problemau. Aeth Kate a gweithiwr cymorth i ymweld pob wythnos ac roedd yr unigolyn yn ymateb yn dda i’r help, gan gynnwys mynychu grwpiau hyfforddiant Teuluoedd yn Gyntaf.

Mae pethau’n dod i drefn eto nawr ac mae Kate yn hynod o falch dros y teulu. Dywedodd: “Ces i alwad ffôn heddiw gan yr unigolyn a ddywedodd mor hapus oedden nhw – doedden nhw ddim yn gallu credu. Rydw i wrth fy modd. Rydw i wedi gweithio mor galed i helpu’r teulu yma a’u cadw gyda’i gilydd.”

#dymatai. Mwy na swydd dydd.

Yn ôl i newyddion