Yn ôl i newyddion

Antur yn y parc

Gobeithio y gallwch ymuno a ni ar 24 Awst ar gyfer Antur yn y parc.

Ysgrifennwyd gan Sam

08 Awst, 2016

Antur yn y parc
Gobeithio y gallwch ymuno a ni ar 24 Awst ar gyfer Antur yn y parc. Mae gennym ddiwrnod llawn hwyl ar eich cyfer, heb anghofio ambell i beth bach am ddim. Byddwn ym Mharc Pont-y-pŵl o 10am-4pm. Rydym yn ymuno â llawer o westeion arbennig i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i oedolion a phlant. O sesiynau blasu Tae Kwon Do gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i sesiwn cwrdd a chyfarch anifeiliaid o Fferm Greenmeadow, mae yna rywbeth i bawb yn ein digwyddiad Antur yn y Parc! eleni. Byddwn hefyd yn cynnal gwiriadau diogelwch am ddim gyda Cycle Training Wales, felly cofiwch ddod â’ch beic a beiciau eich plant er mwyn eu trin am ddim.

Yn ôl i newyddion