Yn ôl i newyddion

Datblygiad Bryn Serth

Mae safle tir llwyd yn nhref Glynebwy wedi dod i feddiant Lovell, y datblygwr tai arweiniol. Bydd y safle yn gwneud lle i 100 o gartrefi newydd, uchel eu hansawdd o ddeiliadaeth gymysg. Mae'r cynllun £16.8 miliwn, sydd wedi'i leoli ym Mryn Serth, oddi ar Heol Waun-y-Pound ar gyrion gogledd-orllewin y dref, wedi cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennwyd gan Fiona

12 Ebr, 2019

CGI image of housing Bryn Serth
Mae safle tir llwyd yn nhref Glynebwy wedi dod i feddiant Lovell, y datblygwr tai arweiniol. Bydd y safle yn gwneud lle i 100 o gartrefi newydd, uchel eu hansawdd o ddeiliadaeth gymysg.

Mae'r cynllun £16.8 miliwn, sydd wedi'i leoli ym Mryn Serth, oddi ar Heol Waun-y-Pound ar gyrion gogledd-orllewin y dref, wedi cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar yr hen chwarel ddechrau yn yr haf 2019 a'i gwblhau yn 2022. Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y prosiect yn cynnig 70 o gartrefi ar werth ar y farchnad agored, a 30 eiddo fforddiadwy, yn cynnwys rhent cymdeithasol a Pherchnogaeth Cost Isel.

Bydd elfen gwerthu'r datblygiad a elwir yn Golwg y Bryn ar y farchnad, yn cynnwys amrywiaeth o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely, yn ogystal â dau gartref arddangos sydd â thair ystafell wely, y disgwylir iddynt agor eu drysau'r gaeaf hwn.

Bydd yr elfen fforddiadwy yn cynnwys fflatiau dwy ystafell wely, yn ogystal â thai dwy a thair ystafell wely.

Meddai James Duffett, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Lovell: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi caffael y tir hwn, a fydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu cartrefi newydd i'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf, y rhai sy'n symud am yr eildro a'r trydydd tro a theuluoedd sy'n tyfu. Bydd y datblygiad hefyd yn dod â manteision newydd i'r economi a'r gymuned leol, yn ogystal â chreu nifer sylweddol o gyfleoedd hyfforddi a swyddi, ochr yn ochr â chyfres o brosiectau cymunedol.”

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Mae cynllun Bryn Serth yn newyddion gwych i Flaenau Gwent. Mae'r prosiect yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio fod o fudd i bobl a chymunedau. Bydd y datblygiad yn cynnig 30% o dai fforddiadwy i'r ardal, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono.”

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: “Rydym yn buddsoddi £2.8m i adeiladu 30 o gartrefi fforddiadwy drwy'r cynllun hwn, gan weithio mewn partneriaeth â Lovell, Melin, a Glynebwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiad hwn yn dechrau tyfu.”

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio Cyngor Blaenau Gwent: “Mae'r datblygiad hwn ym Mryn Serth, Glynebwy yn enghraifft wych o bartneriaeth ar waith rhwng Cartrefi Melin, CBS Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Lovell. Rydym am i Flaenau Gwent fod yn lle gwych i fyw ynddo a bydd y cytundeb hwn yn caniatáu adeiladu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel, mawr eu hangen. Bydd y ddaliadaeth gymysg o dai dwy, tair a phedair ystafell wely yn creu cymuned newydd ar gyfer yr ardal hon, ac yn mynd i'r afael â'r pwysau cynyddol i ddarparu cartrefi gweddus, cynaliadwy i'r bobl sydd eu hangen.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent: “Mae datblygiad Bryn Serth yn dangos hyder cynyddol yn y sector tai preifat i fuddsoddi ym Mlaenau Gwent ac mae'n ffurfio rhan o'n dyheadau adfywio ehangach ar gyfer y fwrdeistref, gan greu economi fwy ffyniannus a chymunedau cryfach.”

Wedi'i leoli o fewn milltir o ganolfan ffyniannus Glynebwy, mae gan y safle gysylltiadau ardderchog â gorsaf drenau'r dref, sy'n cynnig gwasanaethau uniongyrchol rheolaidd i Gaerdydd a ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465.
Mae hefyd wedi'i leoli tair milltir o Ganolfan Siopa Parc yr Ŵyl, sy'n cynnwys detholiad o 40 o siopau, caffis a bwytai.

Yn ôl i newyddion