Yn ôl i newyddion

#IWD2019

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gyda'r thema Cydbwysedd er Gwell. Cawsom ein hysbrydoli gan ein Prif Weithredwr, Paula ac roeddem am rannu ei stori. Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa, dywedodd Paula Kennedy;

Ysgrifennwyd gan Fiona

08 Maw, 2019

#IWD2019
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gyda'r thema Cydbwysedd er Gwell. Cawsom ein hysbrydoli gan ein Prif Weithredwr, Paula ac roeddem am rannu ei stori.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa, dywedodd Paula Kennedy;

"Mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn gweithio yn y maes tai trwy hap a damwain, nad oeddent byth yn gwybod beth oedd cymdeithas dai, na beth oedd y swydd yn ei golygu. Ar y llaw arall, fe wnes i gwblhau gradd yn y maes tai ac o hynny ymlaen roeddwn yn gwybod mai yn y maes tai yr oeddwn am ddilyn gyrfa. Roedd fy swydd gyntaf fel Swyddog Tai ar gyfer cymdeithas arbenigol fach yn Llundain o'r enw Housing for Women, lle rhoesom gartref i fenywod sengl ar draws 11 o wahanol awdurdodau yn Llundain. Oddi yno gweithiais i L&Q, un o gymdeithasau mwyaf Llundain, ac ers hynny rwyf wedi treulio amser mewn nifer o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.

Yn gynnar yn fy ngyrfa roeddwn yn gwybod mai Prif Weithredwr yr oeddwn am fod rhyw ddiwrnod, ac rwyf mor ffodus o fod wedi cyflawni hynny gyda Melin. Nid yn lwcus i fod yn Brif Weithredwr, fe ddaeth hwnnw drwy waith caled, ond yn ffodus o fod yn gweithio gyda chymaint o bobl sy'n gwneud gwaith mor wych. Ond mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn torri'r rheolau pan ddaw i Brif Weithredwyr, oherwydd mae menywod yn cyfrif am dros 50% ohonynt. Mae nifer y prif weithredwyr sy'n fenywod yn y FTSE 100 dal i fod yn llai na nifer y penaethiaid o'r enw David!

Yn fy neges fisol i staff, fe atgoffais bawb fod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu'n flynyddol ar 8 Mawrth ac mai thema'r ymgyrch eleni yw #CydbwysedderGwell - sef yr alwad i weithredu ar yrru cydbwysedd o ran rhyw. A gofynnais i chi ofyn i chi'ch hun sut y byddwch chi'n helpu i wneud gwahaniaeth? Efallai eich bod yn meddwl na allwch chi wneud gwahaniaeth, ond rydych chi'n anghywir. Gall fod mor syml ag annog y bobl ifanc yr ydych yn eu hadnabod i gofio: y gall menywod fod yn drydanwyr a gall dynion fod yn nyrsys; gall menywod fod yn Brif Weithredwyr a gall dynion ofalu am eu plant; gall menywod fod yn beilotiaid a gall dynion fod yn griw caban.

Mae ymchwil yn dangos bod timau cytbwys o ran rhyw yn cynhyrchu canlyniadau mwy cynaliadwy a rhagweladwy, felly pam na fyddem yn ceisio ei gyflawni? Cofiwch fod byd cytbwys yn fyd gwell. "

Yn ôl i newyddion