Yn ôl i newyddion

Melin Works yn cynnig cyfleoedd i’r di-waith drwy uno â CCC

Mae ein gwasanaeth cyflogaeth Melin Works a Chartrefi Cymunedol Cymru (CCC) wedi dod ynghyd i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn ne ddwyrain Cymru. Enillodd CCC statws canolfan achrededig Agored Cymru ym mis Chwefror 2016 ac mae hyn yn galluogi’r sefydliad i achredu’r hyfforddiant a ddarperir gan ei gymdeithasau tai yng Nghymru. Cartrefi Melin oedd yr aelod cyntaf i gofrestru a chofrestru’i ddysgwyr gyda CCC.

Ysgrifennwyd gan Marcus

05 Awst, 2016

Melin Works yn cynnig cyfleoedd

Mae ein gwasanaeth cyflogaeth Melin Works a Chartrefi Cymunedol Cymru (CCC) wedi dod ynghyd i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn ne ddwyrain Cymru. Enillodd CCC statws canolfan achrededig Agored Cymru ym mis Chwefror 2016 ac mae hyn yn galluogi’r sefydliad i achredu’r hyfforddiant a ddarperir gan ei gymdeithasau tai yng Nghymru. Cartrefi Melin oedd yr aelod cyntaf i gofrestru a chofrestru’i ddysgwyr gyda CCC. Meddai Adele Harries-Nicholas, Rheolwr Datblygu Busnes a Gwasanaethau Aelodau Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Buom yn gweithio gyda nifer o aelodau i ychwanegu gwerth am arian i’r hyfforddiant y maen nhw’n ei gynnig, ac rydym wrth ein bodd mai Cartrefi Melin oedd yr aelod cyntaf i gofrestru ar ein hyfforddiant achrededig. Edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith da sy’n mynd rhagddo eisoes gyda Chartrefi Melin.’

Fe wnaeth Clair, Rebecca, Tracey a Lauren, pedair o drigolion Melin, fynychu swyddfeydd Melin ar gwrs Lefel 1 mewn addysg sy’n gysylltiedig â gwaith. Dyma’r cwrs cyntaf a ddarparwyd gan Melin Works a gwnaed hynny mewn partneriaeth â CCC. Ar ôl cwblhau’r cwrs cyflwynwyd eu tystysgrifau iddynt yn Arena Motorpoint, Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, adeg Cynhadledd Adnoddau CCC. Ni allai Lauren fynychu’r digwyddiad am ei bod wedi cael swydd ers ennill y cymhwyster, ond fe wnaeth Clair, Rebecca a Tracey fwynhau sgwrs ysbrydoledig gan Anna Hemmings MBE, pencampwraig canŵio ac enillydd chwe medal aur.

Meddai Stuart Baldwin, Pennaeth tîm Melin Works; “Dyma bartneriaeth newydd, cyffrous gyda CCC, sy’n golygu mwy o gyfleoedd posibl ar gyfer ein trigolion. Gall unrhyw drigolion sy’n chwilio am waith a chyfleoedd hyfforddi gysylltu â thîm Melin Works ar 01495 745910 neu e-bostio melinworks@melinhomes.co.uk”.


Yn ôl i newyddion