Yn ôl i newyddion

Gyda’n Gilydd

Gyda’n Gilydd, Gallwn yw ein prosiect celf cymunedol ar-lein newydd. Ar yr adeg anodd hon, roeddem ni am greu darn o gelf sy’n crynhoi’r hyn sy’n gwneud pobl yn hapus.

Ysgrifennwyd gan Fiona

03 Ebr, 2020

Gyda’n Gilydd

Gyda’n Gilydd, Gallwn yw ein prosiect celf cymunedol ar-lein newydd.

Ar yr adeg anodd hon, roeddem ni am greu darn o gelf sy’n crynhoi’r hyn sy’n gwneud pobl yn hapus.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?
Gall unrhyw un gymryd rhan.

Beth sy’n rhai i fi wneud?
Tynnu ffotograff, arlunio/peintio llun o rywbeth sy’n eich gwneud yn hapus a’i ddanfon atom ni trwy e-bost – news@melinhomes.co.uk neu postiwch e ar ein tudalen Facebook.

Beth fyddwch chi’n gwneud gyda’r gelf?
Pan fyddwn ni wedi derbyn nifer o luniau hyfryd, byddwn yn gweithio gyda Marion, artist talentog o Gasnewydd i roi’r holl luniau at ei gilydd i greu un darn o gelf gymunedol.

A fydd modd i mi weld y darn celf wedi ei orffen?
Bydd, unwaith y bydd wedi ei orffen, byddwn yn cyflwyno’r gelf ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan. Efallai bydd gennym rhai printiau i bobl eu cael, am rodd fach at elusen.

Unrhyw gwestiynau eraill , cysylltwch â Fiona ar 01495 745910 neu drwy e-bost news@melinhomes.co.uk.

Yn ôl i newyddion