Yn ôl i newyddion

Trigolion Hapus yn cael help gan ein Tîm Tai

Symudodd Miss West a Mr Williams, Mountain Road, Glyn Ebwy i’w byngalo ym Mehefin.

Ysgrifennwyd gan Marcus

03 Tach, 2016

Trigolion Hapus
Symudodd Miss West a Mr Williams, Mountain Road, Glyn Ebwy i’w byngalo ym Mehefin. Ar ôl byw o’r blaen mewn tŷ oedd yn anaddas i Mr Williams, sydd mewn cadair olwyn, roedden nhw wrth eu bodd pan gawson nhw eu cartref newydd. “Pan oedd yn wirioneddol sâl, wnaethon ni ddim am y peth, ond unwaith iddo wella roedd yn amlwg i ni mor anaddas oedd ein hen dŷ ar gyfer ein hanghenion. Cyn gynted ag yr aethom ni at y tîm tai ym Melin, roedden nhw gymaint o help wrth i ni gofrestru a gwneud cais” dywedodd Miss West.

Yn ôl y pâr, mae’r tŷ newydd wedi gwneud “gwahaniaeth anferth” i’w bywydau; “O’r blaen roeddwn i’n gaeth ac roedd yn anodd gweld pobl yn gorfod fy nghario i a’r gadair o gwmpas y tŷ. Mae’r byngalo newydd yn gwneud pob peth yn gyflymach ac yn fwy diogel i fi, ac rwy’n gallu byw bywyd llawn gyda’r bobl sydd agosaf ataf i” dywedodd Mr Williams. Roedd y pâr am estyn diolch i staff Melin a oedd wedi hwyluso’r newid.

Yn ôl i newyddion