Rhentu
Gwneud cais i rhentu Cartref gan Melin
Rydym yn cadw ein cartrefi mewn cyflwr gwych ac yn darparu gwasanaethau rhagorol i'ch helpu i fyw'n gyfforddus yn eich cartref a'ch cymuned. Mae gennym amrywiaeth eang o eiddo ledled de-ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys dau, tri a phedwar ystafell wely, fflatiau a byngalos.
Os ydych yn ystyried byw yn Nhorfaen
Ewch i wefan Homeseeker Torfaen neu ffoniwch 01495 742409. Mae gan Gyngor Torfaen hefyd ganllaw da am eich dewisiadau tai. Os ydych am wybod mwy am fyw yn Nhorfaen yna dylech ddarllen copi o’u Cyfeirlyfr Tai, Cyngor a Chymorth
Os ydych yn ystyried byw yn Sir Fynwy
Ewch i Homesearch Sir Fynwy
Os ydych yn ystyried byw yng Nghasnewydd
gallwch fynd i Dewisiadau Tai Cyngor Casnewydd neu ffonio 01633 656656.
Os ydych yn ystyried byw ym Mlaenau Gwent
Gallwch lawr lwytho'r ffurflen gais o wefan Cyngor Blaenau Gwent i'w llenwi a'i dychwelyd i'r cyngor, neu fe allwch ffonio 01495 354600 i gael gwybod mwy.
Os ydych yn ystyried byw ym Mhowys
Mae gwefan Cyngor Powys yn egluro sut y gallwch wneud cais. Gallwch gysylltu â hwy ar 08450 552155, neu mynd i'w gwefan dewisiadau tai i gael mwy o wybodaeth.
Eiddo eraill sydd ar gael i’w rhentu
O bryd i'w gilydd mae gennym gartrefi eraill fydd ar gael i'w rhentu. I gael gwybod pan fydd y rhain ar gael, cofrestrwch i dderbyn ein he-bost eiddo diweddaraf ar y ffurflen ar y dde. Ni fyddwn yn anfon negeseuon e-byst di-ri atoch, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd ein cartrefi diweddaraf ar gael.