Gwahardd cŵn Bully XL
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, yn berchen ar gi brîd Bully XL, mae yna newidiadau i’r gyfraith ar y ffordd y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Ysgrifennwyd gan Sam
—11 Rhag, 2023
Gwahardd cŵn Bully XL
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, yn berchen ar gi brîd Bully XL, mae yna newidiadau i’r gyfraith ar y ffordd y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Oherwydd cynnydd mewn ymosodiadau gan y brîd yma, mae’r llywodraeth yn ychwanegu’r brîd at y rhestr o gŵn sydd wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.
Beth yw ystyr hyn?
O Ragfyr 31ain eleni, bydd yn anghyfreithlon i;
- werthu,
- gadael,
- rhoi neu
- fridio o gi Bully XL.
- Bydd hefyd yn erbyn y gyfraith i fod gyda chi Bully XL yn gyhoeddus heb dennyn a mwsel.
Hefyd, o Chwefror 1af 2024, bydd yn anghyfreithlon bod yn berchen ar gi Bully XL oni bai bod gyda chi dystysgrif o eithriad.
Yn ogystal â gorfod cael tystysgrif, i chi gadw ci Bully XL mae’n rhaid iddo fod;
- Â sglodyn micro
- Yn cael ei gadw ar dennyn ac â mwsel ar bob adeg pan fyddwch ymhlith y cyhoedd
- Yn cael ei gadw mewn man diogel fel nad yw’n gallu dianc
- Wedi ei ysbaddu
Fel y perchennog, mae’n rhaid i chi;
- Fod dros 16 oed
- Ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti rhag i’ch ci niweidio pobl eraill
- Bod yn gallu dangos y dystysgrif o eithriad pan ofynnir i chi gan swyddog o’r heddlu neu warden cŵn y cyngor, naill ai ar adeg gofyn neu o fewn pum diwrnod.
Am fwy o wybodaeth am y gwaharddiad a sut i wirio a yw eich ci’n gi Bully XL yn ôl diffiniad y Llywodraeth, ewch i Prepare for the ban on XL Bully dogs - GOV.UK (www.gov.uk)