Yn ôl i Cadw’n ddiogel

Diogelwch nwy, tân a thrydan

Diogelwch a chydymffurfio – eich cadw chi yn ddiogel yn eich cartref

Mae gennym dimau ymroddedig ar draws Melin sy’n delio gyda phob maes sy’n cael ei lywodraethu gan reoliadau a deddfwriaeth.

Rydym yn cyflogi staff a chontractwyr i ymgymryd â phrofion a gwaith gwasanaethu mewn ardaloedd cyffredin. Mae hyn er mwyn eich cadw’n ddiogel.

Archwiliadau diogelwch nwy

Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i ymwneud ag archwiliad diogelwch nwy bob 12 mis.

Mae hyn yn helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel ac yn sicrhau bod eich cyfarpar yn gweithio’n effeithlon.

Byddwn yn cysylltu pan fydd yn amser i wneud eich archwiliad chi, ac yna gallwch drefnu apwyntiad i ni ddod i wirio pethau am ddim. Mae’n bwysig iawn cadw eich apwyntiad gyda ni gan ei fod yn helpu i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel.

Os oes angen i chi ad-drefnu apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch gymaint o rybudd ag y bo modd i ni, gan fod eich tystysgrif diogelwch nwy ond yn ddilys am 12 mis o ddyddiad yr archwiliad diwethaf.

Pan fyddwn wedi cwblhau eich archwiliad diogelwch nwy, byddwn naill ai’n ebostio neu’n postio eich tystysgrif i chi.

Peidiwch ag ymyrryd gyda’r pibellau nwy yn eich cartref, a gadewch i ni wybod am unrhyw broblemau.

Profion trydanol

Mae gennym ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau bod cyfarpar trydanol yn eich eiddo yn ddiogel.

Argymhellir mai’r arfer orau yw bod Adroddiad Cyflwr Cyfarpar Trydanol (EICR) yn cael ei wneud bob pum mlynedd, er mwyn helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel.

Gall y prawf gymryd rhwng dwy a phedair awr i’w gwblhau. Byddwn yn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw geblau neu switsys neu socedi wedi dirywio.

Byddwn yn adnewyddu unrhyw ategolion sydd wedi torri a thrwsio unrhyw ddiffygion a ganfyddir – mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel i chi barhau i fyw ynddo.

Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod offer canfod mwg yn bresennol ac yn gweithio.

Byddwch yn derbyn llythyr gennym pan fydd yn amser i wneud y prawf trydanol. Cysylltwch â ni pan gewch y llythyr hwn i drefnu apwyntiad. Os oes angen i chi newid apwyntiad am unrhyw reswm, rhoddwch gymaint o rybudd i ni ag y bo modd os gwelwch yn dda.

Rydym yn profi holl offer trydanol mewn mannau cyffredin – gall hyn gynnwys grisiau bach gydag ychydig o oleuadau a’r ardaloedd cyffredin mwy mewn llety gwarchod. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod pob un o’n hadeiladau yn cael eu cynnal yn dda ac yn ddiogel i’w defnyddio.

Peidiwch ag ymyrryd gyda’r trydan yn eich cartref – gadewch i ni wybod am unrhyw broblemau.

Diogelwch tân

Beth rydym yn ei wneud – mewn blociau o fflatiau, ardaloedd cyffredin a chynlluniau gwarchod:

  • Ymgymryd ag asesiadau risg tân.
  • Gwasanaethu a chynnal a chadw offer diogelwch tân – lle mae wedi ei ddarparu.
  • Cynnal a chadw waliau, lloriau a drysau i safonau diogelwch tân.
  • Gweithio gyda’r Gwasanaeth Tan ac Achub i sicrhau ein bod yn cynnal y lefel briodol o safonau rheoli tân.

Beth yw eich cyfrifoldeb chi?

  • Cadw holl ardaloedd cyffredin yn glir o’ch eiddo ac yn rhydd rhag rhwystrau gan y gallai’r rhain gynrychioli perygl tân neu rwystro gwagio’r adeilad os oes argyfwng.
  • Peidiwch ag ymyrryd ag unrhyw offer diogelwch tân.
  • Peidiwch â symud unrhyw ddyfeisiau cau drysau neu adael drysau tân ar agor.
  • Peidiwch â gwneud tyllau mewn waliau lloriau neu nenfydau.
  • Peidiwch ag ymyrryd gyda systemau chwistrellu yn eich cartref na mewn ardaloedd cyffredin.
  • Adroddwch am unrhyw waith trwsio yn eich cartref neu ardaloedd cyffredin yn brydlon er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Eich cyfrifoldebau chi

Rhai awgrymiadau ar gadw’r tu mewn i’ch cartref mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi, eich teulu neu ymwelwyr yn achosi difrod i’ch cartref, naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol.

Rhagor o wybodaeth