Y Cwmnïau Gorau yn y DU i Weithio iddynt
Cwmnïau Gorau
Rydym yn credu bod Melin yn lle gwych i weithio ynddo, ac mae ein staff yn credu hynny hefyd, dyna pam rydym ar dair rhestr o’r cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yn y DU ar gyfer 2024:
- Rhif 19 o’r Cwmnïau Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU.
- Rhif 2 o’r Cymdeithasau Tai Gorau i Weithio iddynt yn y DU, rhif 1 yng Nghymru.
- Rhif 7 o’r Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru.
Safon Iechyd Corfforaethol
Rydym unwaith eto wedi cael dyfarniad Safon Iechyd Corfforaethol Aur a Phlatinwm gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Safon Iechyd Corfforaethol yn rhan o’u rhaglen ‘Cymru Iach ar Waith’ ac mae’n rhan o’r nod cenedlaethol o ansawdd ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle.
Gallwch ddarllen ein stori newyddion yn llawn a dysgu mwy trwy fynd at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.