Yn ôl i Eich cartref

Effeithlonrwydd ynni ac arbed arian

Darlun o lamp nenfwd

I’ch helpu chi i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ac i arian yr aelwyd, rydym wedi casglu ynghyd rhai syniadau a allai eich helpu i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.

Arbed ynni

  • Os ydych allan o’ch cartref am gyfnodau hir, defnyddiwch yr amserydd i ddiffodd eich gwres canolog a’i roi ymlaen yn ôl pan fyddwch yn dod adref, fel nad yw’n cynhesu eich cartref pan nad ydych yno.
  • Ceisiwch wefru eich ffôn yn ystod y dydd pan allwch gadw llygad arno i weld pan fydd wedi ei wefru’n llawn, yn hytrach na’i adael dros nos.
  • Gosodwch fylbiau golau ynni isel pan fyddwch yn gosod rhai newydd.
  • Cofiwch, mae gostwng eich gwres un gradd yn gallu arbed arian i chi.
  • Gofynnwch i’ch cyflenwr ynni am fesurydd clyfar neu gyfarpar arddangos clyfar. Maent nid yn unig yn helpu gyda darlleniadau mesurydd cywir, ond hefyd yn gallu arbed arian drwy osod cyllideb ar gyfer eich defnydd o ynni. Mae darlleniadau mesuryddion clyfar yn gywirach oherwydd gellir anfon gwybodaeth am eich defnydd at eich cyflenwr bob hanner awr, bob dydd neu bob mis. Gallwch chi ddewis pryd, felly ni fydd unrhyw filiau sy’n amcan eich defnydd.

Cadw’n gynnes ac arbed

  • Drwy stopio drafftiau, gallwch rwystro gwres rhag dianc. Gallwch wneud hyn drwy gau’r llenni pan fydd yn dechrau tywyllu a thrwy osod rhimyn drafftiau wrth y drysau.
  • Gwnewch yn siŵr bod drysau a ffenestri ar gau pan fyddwch yn twymo eich cartref. Byddwch yn defnyddio llai o ynni i gadw eich cartref yn gynnes. Mae’n bwysig awyru eich cartref, ond agorwch ffenestri a drysau pan fydd y gwres i ffwrdd.
  • Ceisiwch gadw drysau mewnol a llenni ar gau dros nos i gadw’r gwres yn eich cartref.
  • Defnyddiwch duvet gyda’r tog cywir ar gyfer y tywydd (tog isel yn yr haf ac un uchel yn y gaeaf) i osgoi gorfod rhoi’r gwres ymlaen yn ddiangen.

Diffodd ac arbed

  • Mae gan lawer o’ch eitemau trydanol, megis y teledu, fodd segur pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, ond maent yn dal i ddefnyddio trydan ac yn costio arian i chi.
  • Arbedwch rhyw £30 y flwyddyn drwy ddiffodd y teledu ac eitemau trydanol eraill. Ewch i’r arfer o ddiffodd cyn mynd i’r gwely neu’r gwaith, neu gallwch ddefnyddio amserydd ar y soced, fel nad oes angen i chi geisio cofio.

Golchi ac arbed

  • Golchwch ddillad a llestri ar dymheredd is i arbed ynni ac arian.
  • Mae golchi dillad ar 30º yn hytrach na 40º yn defnyddio llai o drydan a gall arbed hyd at £6 y flwyddyn i chi. Os gallwch wneud un golchiad yn llai bob wythnos, byddwch yn arbed arian ar eich bil trydan blynyddol.
  • Mae peiriannau sychu dillad yn gallu bod yn ddrud. Defnyddiwch nhw dim ond pan mae angen i chi wneud hynny.
  • Lle bynnag y bo modd, rhowch eich dillad allan i sychu, yn lle eu rhoi ar reiddiaduron. Mae sychu dillad ar reiddiaduron yn gallu cynhyrchu hyd at naw peint o ddŵr sy’n gallu achosi lleithder a chyddwysiad. Mae hefyd yn cyfyngu’r gwres sy’n dod allan o’r rheiddiaduron, ac felly nid yw eich cartref yn cynhesu fel y dylai. Os na allwch sychu dillad yn yr awyr agored, defnyddiwch hors dillad yn y tŷ.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn defnyddio’r peiriannau golchi llestri a dillad pan fyddant yn llawn.
  • Gallwch arbed rhyw £25 y flwyddyn drwy olchi llestri mewn powlen yn hytrach na defnyddio tap sy’n rhedeg.
  • Gallech efallai roi cloc yn yr ystafell ymolchi er mwyn annog y teulu i gael cawodydd cyflymach.

Coginio ac arbed

  • Drwy goginio prydau swmpus a rhewi ar gyfer prydau yn y dyfodol gallwch arbed ynni gan y byddwch yn gwneud llai o ddefnydd o’r cyfarpar coginio.
  • Os oes modd, gallwch ddefnyddio’r microdon yn lle’r popty gan eu bod yn defnyddio llai o ynni.
  • Os ydych yn cadw caead ar sosbenni, byddwch yn rhwystro cyddwysiad ac yn cadw’r gwres yn y sosban gyda’r bwyd. Os ydych yn defnyddio tegell wrth goginio, gwnewch yn siŵr eich bod ond yn berwi’r dŵr sydd ei angen arnoch.
  • Mae’r tegell yn defnyddio llawer o drydan; ceisiwch ferwi ond y dŵr sydd ei angen arnoch ar gyfer te/goffi.

Siopa ac arbed

  • Pan fo’n amser prynu nwyddau gwyn newydd fel peiriant golchi, dewiswch un gyda sgôr effeithlonrwydd ynni uchel. Bydd hyn yn arbed arian i chi.

Too Good to Go

Mae yna ap y gallwch ei lawrlwytho ar eich ffôn symudol o’r enw Too Good To Go. Mae’n caniatáu i chi gael hyd i fwytai a siopau bwyd lleol sy’n gwerthu stoc dros ben yn rhatach. Mae cadwyni fel y Coop, Morrisons, Greggs a Toby Carvery yno, a gallwch ei ddefnyddio i gael bargen leol.

Ailgylchu ac uwchgylchu dillad

  • Gofalwch am eich dillad a cheisiwch beidio a phrynu dillad rhad a’u taflu ar ôl eu gwisgo unwaith neu ddwywaith.
  • Ewch i www.loveyourclothes.org.uk i gael syniadau ar sut i uwchgylchu dillad.
  • Mae siopau mewn siopau elusen lleol yn syniad gwych – ar gyfer yr amgylchedd a’ch pwrs.

Siopau trwsio

  • Ewch â’ch eitem wedi torri i siop leol ac ailddefnyddio leol. Os chwiliwch ar Facebook neu Instagram mae llawer o’r elusennau hyn ar gael. Maent yn ceisio trwsio cyfarpar wedi torri a gallwch dalu swm bychan i’w benthyg hefyd.
  • Mae Repair Café Wales yn agor a chefnogi caffis trwsio ledled Cymru a gallwch fynd i’w gwefan neu eu tudalen Facebook.
  • Rhai siopau trwsio yn yr ardal yw RE:MAKE Newport a Repair Café Monmouth.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi