Yn ôl i Gweithio i Melin

Buddion

Rydym yn credu bod Melin yn lle gwych i weithio ynddo, ac mae ein staff yn credu hynny hefyd, dyna pam rydym ar dair rhestr o’r cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yn y DU ar gyfer 2022:

  • Rhif 73 o’r Cwmnïau Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU
  • Rhif 6 o’r Cymdeithasau Tai Gorau i Weithio iddynt yn y DU
  • Rhif 17 o’r Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru

Iechyd, lles a chydbwysedd gwaith a bywyd

Rydym am i staff fod yn nhw eu hunain yn y gwaith a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth fwynhau cydbwysedd iach o fywyd a gwaith ar yr un pryd. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff:

  • Amser hyblyg (i staff yn y swyddfa)
  • Oriau gweithio hyblyg – dim oriau craidd
  • Ystafelloedd tawel ar gael ar gyfer seibiant
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 30 ar ôl cyfnod o wasanaeth
  • Gwyliau mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
  • Gwyliau Banc
  • Polisi cyfeillgar i’r teulu
  • Polisi gweithio ystwyth
  • Pensiwn
  • Cyngor ariannol am ddim
  • Cwnsela am ddim
  • Dysgu a datblygu wedi eu teilwra i staff
  • Diodydd poeth am ddim
  • Parcio am ddim ar y safle
  • Gostyngiad ar gost aelodaeth o gampfa
  • Dau gynllun seiclo i’r gwaith
  • Ffrwythau am ddim
  • Cynilion staff
  • Siop byrbrydau i staff
  • Prawf llygaid am ddim
  • Brechu am ddim at y ffliw

15 pwynt gwefru ceir trydan

Ein buddion ychwanegol

Pan fyddwch chi’n gweithio yma, mae yna amrywiaeth eang o fuddion yn ogystal â’r buddion yr ydym wedi rhestru eisoes. Mae gennych chi chwe phwynt i’w gwario pob blwyddyn ar ba bynnag gymysgedd o fuddion yr ydych yn dymuno:

  • Gwobrwyon yn y Gwaith – arbedion go iawn gyda 900 o adwerthwyr
  • Yswiriant iechyd preifat i chi a’ch teulu
  • Cynllun arian parod iechyd
  • Gwiriad iechyd am ddim
  • Ffioedd aelodaeth broffesiynol
  • Benthyciad car
  • Aelodaeth o’r AA