Yn ôl i Gweithio i Melin

Ein pobl

Leslie

Portread o Leslie

Dyma gyflwyno Leslie, un o’n Hymgynghorwyr Ariannol

Ar ôl dechrau ei yrfa yn y sector bancio 18 mlynedd yn ôl roedd Leslie yn ystyried newid gyrfa, a rôl byddai’n rhoi ymdeimlad o foddhad iddo. Dechreuodd ei yrfa yn y maes tai yn 2013, gan ymuno â’n teulu yma ym Melin yn 2019. Meddai:

“Mae pob diwrnod yn wahanol yn fy rôl. O gysylltu â’n partneriaid yn y gwasanaeth i gynorthwyo ein trigolion gyda’u hamrywiol ymholiadau, rwyf wrth fy modd â’r holl amrywiaeth. Nid oes gan unrhyw un yr un ymholiad, waeth pa mor debyg maen nhw’n swnio. Mae’r rôl yn rhoi cymaint o foddhad. Bob dydd, rwy’n helpu pobl i gael ansawdd bywyd gwell. Os ydych chi’n chwilio am yrfa amrywiol sy’n rhoi boddhad, gallaf llwyr argymell gweithio yn y maes tai.”

Pam mae Leslie wrth ei fodd yn gweithio i Melin:

“Heb os, y cyflogwr gorau yr wyf wedi gweithio iddo. Mae’r sefydliad yn gefnogol dros ben. Ni fu fy lles meddyliol erioed mor dda, ac mae’n braf gwybod bod y sefydliad yn hidio.”

Rwyf wrth fy modd â fy nghydweithwyr. Bu farw fy nhad y llynedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ac am fod fy nheulu yn byw yn yr Alban, roedd yn anodd iawn ond roedd y gefnogaeth a gefais gan fy nghydweithwyr (fy ffrindiau) yn anhygoel ac yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio am weddill fy oes.

Sharon

Portread o Sharon

Dyma gyflwyno Sharon, Cyfarwyddwr Asedau

Why I love working for Melin:

Ar ôl dechrau ar ei gyrfa 20 mlynedd yn ôl ac ymuno ag Eastern Valley Housing, wedi gweithio’n flaenorol yn y maes cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, roedd camu i fyny o’r cyngor i gymdeithas dai fach iawn (yr adeg honno) yn gam enfawr.

“Ni allai fy swydd fod yn fwy gwahanol i'r swydd 20 mlynedd yn ôl! I dorri stori hir yn fyw, rwyf wedi mynd o fod yn Rheolwr Cyllid i Gyfarwyddwr Arloesi a Diwylliant i Gyfarwyddwr Asedau. Mae pob newid sydd wedi digwydd yn fy rôl wedi bod er gwell ac i raddau, sbardunwyd hwy gan fy angerdd a fy agwedd tuag at waith.

“Mae fy rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Asedau wedi bod yn newid mawr, ond un yr wyf yn teimlo’n angerddol amdani. Mae gennyf reolwyr ac arweinwyr tîm gwych ymhob un o fy nhimau. Mae gan bob un ohonom nod cyffredin, sef darparu’r gwasanaethau gorau i’n trigolion. Rwyf dal i fod yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o greu diwylliant penigamp yma ym Melin; Zest (iechyd a lles), b-Heard (ymgysylltu â gweithwyr), Cwmnïau Gorau, Parhad Busnes, cynllunio timau a sbarduno gwelliannau digidol.”

Pam mae Sharon wrth ei bodd yn gweithio i Melin:

“Mae pawb yn ei ddweud, ond y peth rwy’n ei garu fwyaf am Melin yw’r bobl. Rydyn ni bob amser wedi dweud ein bod fel teulu. Hyd yn oed wrth i bobl fynd a dod– sy’n anochel – rydym wedi cynnal y diwylliant anhygoel sy’n gwneud Melin yn arbennig. A dyma sy’n cadw pobl yma, a’r hyn sy’n denu pobl newydd i eisiau gweithio yma.”

Yn fy rôl, yr hyn yr wyf yn ei garu fwyaf yw bod mewn sefyllfa lle mae popeth yr wyf yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i bobl, a’r ffaith fod gennyf y pŵer i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y busnes a’r bobl sy’n rhan ohono. Rwy'n ffodus iawn bod gen i dîm gwych; mae gwybod hyn bob dydd yn gwneud i mi wenu a gwerthfawrogi pa mor wych yw fy swydd.

Emily

Portread o Emily

Dyma gyflwyno Emily, un o’n Cynorthwywyr Gweinyddol

Dechreuodd Emily ei gyrfa gyda ni ym mis Hydref 2020, ar ôl cael ei diswyddo o ganlyniad i'r pandemig. Dywed Emily wrthym:

“Dwi wedi teimlo'n rhan o'r tîm o'r diwrnod cyntaf, mae'n teimlo fel fy mod wedi bod yma ers blynyddoedd - sydd yn beth da yn fy marn i!

“Yr her fwyaf i mi oedd dechrau'r swydd yn ystod pandemig. Roddwn i'n poeni sut y buaswn yn dysgu sut i wneud fy swydd, y systemau, deall y sector tai a chyd-fynd â dod ymlaen gyda phobl, am fod pob un ohonom yn gweithio gartref. Mae pawb wedi bod yn hollol wych o ran fy helpu i ddysgu’r hyn sydd ei angen mewn rôl newydd a thai yn gyffredinol. Mae gan yr holl adrannau'r un nod, sef gwneud gwahaniaeth i gymunedau a thrigolion.

“Yn fy swydd o ddydd i ddydd rwy’n monitro’r gronfa ddata contractau, helpu gyda phob agwedd ar ochr weinyddol tendrau, adolygiadau a chontractau.”

Pam mae Emily wrth ei bodd yn gweithio i Melin:

Ers fy niwrnod cyntaf yn y swydd, rwyf wedi teimlo’r rhan o’r tîm ac yn rhan o Melin. Mae’r staff yn gynorthwyol a chroesawgar dros ben. Mae’r buddion i’r staff a’r amser gweithio hyblyg yn fonws mawr. Dihuno bob bore yn gwybod bod gen i swydd sy’n rhoi cymaint o foddhad yw’r teimlad gorau erioed!

Jamie

Portread o Jamie

Dyma gyflwyno Jamie, sydd â Gradd mewn Datblygu

“Ar ôl astudio Cynllunio a Datblygu Trefol yn y brifysgol, datblygais angerdd am dai, yn enwedig tai fforddiadwy. Yn fy mlwyddyn olaf roeddwn wedi penderfynu fy mod am ddilyn gyrfa yn y diwydiant hwn, felly dechreuais chwilio am rolau graddedig a bues yn ffodus i ddod o hyd i un a oedd newydd gael ei chyhoeddi gan Melin. Rhoes gynnig amdani, cyrraedd y rhestr fer, yna’r cyfweliad, a chefais y swydd!”

Pam mae Jamie wrth ei fodd yn gweithio i Melin:

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio yma, mae wir yn lle hyfryd i weithio. Mae’r bobl yr wyf wedi cyfarfod â nhw wedi bod yn groesawgar iawn a hapus. Mae pawb wedi ymdrechu 100% i roi croeso i mi a gwnned i mi deimlo’r rhan o’r tîm. Dim ond ers mis Gorffennaf yr ydw i wedi bod yma, ond rwyf eisoes yn teimlo’n rhan o deulu Melin ac mae fy hyder yn cynyddu bob dydd.”

Yn fy rôl, fel un sydd â gradd mewn Datblygu, gallaf wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Rwyf yn mwynhau dysgu am y meysydd yr ydym yn gweithio ynddynt a gweld o lygad y ffynnon sut mae’r broses datblygu yn gweithio. Mae’n wych gweld profiadau bywyd go iawn a medru gwylio a dysgu gan bobl sydd mor angerddol am eu swyddi. Mae’r bobl ar fy nhîm yn gynorthwyol dros ben ac maent yn mynd cam ymhellach i sicrhau fy mod yn dysgu’n barhaus, maent yn fy ysbrydoli’r gyson.

Mike

Portread o Mike

Dyma gyflwyno Mike, un o’n Uwch Swyddogion Datblygu

“Wrth adael yr ysgol, doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud ac nid oedd gyrfa yn y maes tai yn rhywbeth yr oeddwn hyd yn oed wedi ei ystyried. Roeddwn am gadw fy opsiynau’n agored am fod meddwl am wneud yr un swydd am y 45 o flynyddoedd nesaf heb ei mwynhau, yn gwneud y dasg yn anoddach. Es i’r brifysgol a dilyn gradd Cyfraith, Cyfrifeg a Busnes, er mwyn cadw fy opsiynau’n agored! Nid oeddwn dal i fod yn siŵr beth oeddwn i eisiau ei wneud, fodd bynnag, bûm yn ddigon ffodus i gael swydd addysgu yn Japan.

“10 mlynedd yn ddiweddarach penderfynais ddychwelyd i Gymru, i weithio yn y gwasanaethau adeiladu. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnes ddylunio ac adeiladu fy nhŷ cyntaf. Roeddwn wrth fy modd â’r broses gynllunio; dylunio ac adeiladu rhywbeth sy’n diwallu’ch anghenion a’r ffordd yr ydych am fyw. Fe daniodd rhywbeth ynof, a sylweddolais mai dyma ble gorweddai’r angerdd. Dechreuais weithio yn y maes tai yn 2010, gan ymuno â Melin yn 2016 fel Uwch Swyddog Datblygu.”

Pam mae Mike wrth ei fodd yn gweithio i Melin:

“Mae'r eiddo yr ydym yn eu darparu yn cael effaith mor nodedig ar fywydau ein trigolion. Mae'n llawer mwy na darparu cartref newydd yn unig. Rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a’u cymuned leol. Rwyf wrth fy modd â pha mor amrywiol yw fy rôl, gan fod pob datblygiad yn wahanol iawn; o ddylunio llety i ffoaduriaid a’r digartref i letyau byw â chymorth ac anghenion cyffredinol. Nid yw’r un diwrnod yr un fath ac rwyf yn mwynhau’r heriau sy’n rhan o’r swydd.”

I mi, mae Melin yn fwy na lle i weithio’n unig, mae’n deulu.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Sut i wneud cais

Os ydych chi wedi dod o hyd i swydd ddelfrydol ar ein safle swyddi gwag a hoffech gael gwybod sut i wneud cais, darllenwch yr awgrymiadau hyn.

Gweld mwy