Yn ôl i Cadw’n ddiogel

Torri i mewn/Bwrgleriaeth

Beth i’w wneud os bydd rhywun yn torri i mewn i’ch cartref.

1. Galw’r Heddlu

Cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli bod rhywun wedi torri i mewn i’ch eiddo, ffoniwch 101. Bydd yr heddlu yn rhoi Rhif Cyfeirio Trosedd i chi, a byddwch angen hwn ar gyfer unrhyw hawliad yswiriant cynnwys y byddwch yn ei gwneud. Ar gyfer ffôn testun, y rhif yw 18001 101.

Pwysig: Os yw’r fwrgleriaeth yn dal i ddigwydd, ffoniwch 999. Ceisiwch aros yn ddigyffro, a bydd yr heddlu gyda chi cyn gynted ag y bo modd.

2. Galwch ni

Ar ôl achos o dorri i mewn neu ddifrod troseddol, byddwn yn mynychu i sicrhau bod yr eiddo yn ddiogel. Mae pob achos yn cael ei ystyried yn unigol, a bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau os bydd angen ad-dalu hyn. Ffoniwch ni ar 01495 745910 ac fe drafodwn y mater gyda chi.

3. Peidiwch â chyffwrdd unrhyw beth

Er mai eich greddf gyntaf fydd tacluso pethau, neu hyd yn oed wisgo menig a sgwrio eich cartref i gael gwared ag unrhyw arwydd o’r digwyddiad, mae’n well peidio â chyffwrdd eitemau sydd wedi eu symud, gan y gallech fod yn peryglu tystiolaeth.

Tynnwch luniau o’r olygfa, gan gynnwys drysau a ffenestri wedi torri, a hyd yn oed o’r mannau gwag lle pethau wedi eu cymryd. Gall hyn oll helpu broses pan fyddwch yn gwneud cais yswiriant.

4. Canslo unrhyw gardiau sydd wedi eu dwyn

Os ydych yn credu bod unrhyw gardiau banc, credyd neu lyfrau siec wedi eu dwyn, ffoniwch eich banc neu gwmni cerdyn credyd ar unwaith.

Dylech hefyd alw eich darparwyr cyllid os bydd ffonau, llechi neu liniaduron gyda manylion cyfrif banc ac ati wedi eu cadw arnynt.

Os ydych yn credu bod unrhyw un o’r eitemau hyn wedi eu dwyn, ffoniwch eich darparwr i roi stop ar y cyfrif.

5. Gwneud rhestr

Casglwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych am eitemau sydd wedi eu cymryd o’ch eiddo, megis derbynebau, ffotograffau neu brisiadau. Bydd yn helpu gydag unrhyw hawliadau yswiriant os gallwch roi ddyfynbrisiau am y pethau sydd wedi eu dwyn neu eu difrodi. Peidiwch a chael gwared ag unrhyw beth a allai fod ei angen i’w archwilio gan eich cwmni yswiriant.

6. Cysylltu gyda’ch cwmni yswiriant

Ffoniwch eich cwmni yswiriant cyn gynted ag y bo modd gyda rhestr o’r hyn sydd wedi ei ddwyn. Bydd yr heddlu yn rhoi Rhif Cyfeirio Trosedd i chi, a bydd angen i chi roi hwn i’ch darparwr yswiriant pan fyddwch yn cysylltu a nhw.

Gall eich cwmni yswiriant hefyd eich cynghori ynglŷn â darpariaeth diogelwch ar unwaith, fel newid y cloeon os ydynt wedi eu torri, neu os yw eich allweddau wedi eu dwyn. Mae’n ddoeth defnyddio saer cloeon sy’n aelod o’r Master Locksmiths' Association. 

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Yswirio eich eiddo

Er bod yswiriant adeilad eisoes wedi ei drefnu ar gyfer eich eiddo, rydym yn argymell eich bod yn trefnu yswiriant i warchod eich meddiannau. Peidiwch â’i gadael nes y bydd yn rhy hwyr; holwch i gael gwybodaeth ar yswirio eich pethau.

Rhagor o wybodaeth