





Mae Cartrefi Melin yn Gymdeithas Tai blaenllaw yn ne-ddwyrain Cymru
Rydym yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau i bobl sy’n byw yn ne-ddwyrain Cymru. Rydym yn bodoli i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau i ffynnu. Mae gennym sylfaen gwerthoedd cryf a thîm rhagorol o staff sy’n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau lle rydym yn gweithredu, gan ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd i’r sawl sydd eu hangen. Rydym yn cefnogi pobl yn eu cartrefi ac yn rhoi cyngor ar arian, ynni a chyflogaeth ynghyd â chymorth gyda rhentu a phrynu eiddo.
Rydym wedi ein sefydlu’n dda o fewn ein cymunedau lleol ac rydym yn bartner a werthfawrogir ar gyfer busnesau a phartneriaid lleol. Fel un o’r prif Gymdeithasau Tai yng Nghymru, mae gennym bellach fwy na 4,000 o gartrefi ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd a Phowys. Yn ychwanegol at gynnig cartrefi i’w rhentu, rydym hefyd yn cynnig eiddo ar werth trwy ein cynllun perchnogaeth cost isel a’n his-gwmni Candleston. Rydym yn gyfundrefn gefnogol a bywiog sy’n cymryd balchder mewn bod yn landlord gwydn ac yn gyflogwr rhagorol yn ein hardal leol.
Drwy ebost: enquiries@melinhomes.co.uk
Drwy ffonio: 01495 745910
neu neges testun: 07860 027935
Mewn argyfwng y tu allan i’n oriau arferol sef 8am–6pm
Dydd Llun i Ddydd Iau a 8am-5pm Dydd Gwener,
ffoniwch 01495 325333
Ein cyfeiriad: Cartrefi Melin
Tŷ’r Efail
Lower Mill Field
Pont-y-pŵl
Torfaen NP4 0XJ