Bwrdd Melin
Cynnwys
Does dim amheuaeth fod y sector tai cymdeithasol yn cael effaith fawr ar fywydau miloedd o bobl ledled y wlad, pob dydd. Does dim amheuaeth hefyd bod y bobl ar fyrddau’r sefydliadau yma’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith cadarnhaol hirdymor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cadeirydd – Martin Reed
Mae Martin wedi ymddeol fel cyfarwyddwr cyllid bragdy Brains. Roedd wedi gweithio yno am 17 mlynedd cyn ymddeol ym Mehefin 2019. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Welsh Whisky.
Is-gadeirydd – Anthony Hearn
Mae Anthony’n Gyfarwyddwr Tai a Chymunedau gyda Merthyr Valley Homes.
Wendy Bowler
Ar ôl gyrfa yn y gwasanaeth sifil ac yna mewn iechyd cyhoeddus, mae Wendy nawr yn achrestrydd proffesiynol.
Lisa Howells
Mae Lisa’n Gyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata i Grŵp Curo gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector tai; mae’n aelod o’r Ffederasiwn Adeiladu Tai a’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.
Sarah Tipping
Mae cefndir Sarah mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Polisi, Partneriaethau a Chydraddoldebau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Sarah yw Cadeirydd ein Pwyllgor Ansawdd ac Ymgysylltiad ac mae’n ein helpu ni gyda’n portffolio tîm Byw’n Annibynnol
John Jackson
Gyda nifer o flynyddoedd o brofiad marchnata, mae John yn ymgynghorydd marchnata strategol. Mae ei bractis preifat yn arbenigo mewn datblygiad brand, strategaeth arloesi, a chyfathrebiadau marchnata.
Sanni Salisu
Mae Sanni’n Swyddog Cydymffurfiad Nwy gyda CCHA, gyda dros ddegawd o brofiad yn y sector tai. Mae e wedi rhagori ac wedi symud trwy’r rhengoedd o fod yn brentis at gael effaith yn y Tîm Asedau a Chydymffurfiad.
Mae gan Sanni sgiliau cyfathrebu gwych a dealltwriaeth o’r diwydiant gwresogi. Mae’n arbenigo mewn cydymffurfiad nwy ac, ar hyn o bryd, mae’n astudio cydymffurfiad rheolaeth adeiladau ac asedau.
Naomii Thomas
Mae Naomii’n rheolwr eiddo gwag i Gyngor Caerdydd ac mae wedi gweithio yn y Sector Tai ers 2009. Cafodd Naomii Radd Meistr Tai Uwch gyda Chlod yn 2021. Mae hi wedi ei chymhwyso mewn P405 Rheolaeth Asbestos mewn Adeiladau ac mae hi’n astudio NEBOSH Iechyd a Diogelwch ar hyn o bryd.
Mae gan Naomii frwdfrydedd ar gyfer llwyddo i gael sector tai mwy amrywiol ac mae hi’n aelod o banel Gwneud Nid Dweud.
Barry Thompson
Mae Barry’n dod â bron i dri degawd o brofiad o weithio yn y sector tai, 21 o'r rhain fel Cyfarwyddwr Ariannol, ac mae wedi gweithio ar Fwrdd nifer o gymdeithasau tai ers 2009. Mae gan Barry ddealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae holl feysydd tai’n gweithio, gyda sgiliau ac arbenigedd penodol mewn perthynas â chynllunio busnes, cyfrifeg a rheolaeth, risg, rheolaeth risg ac archwiliad, yn ogystal â rheolaeth strategol.
Claire Marshall
Ymunodd Claire â Bwrdd Melin ym Medi 2023. Mae ganddi frwdfrydedd dros dai cymdeithasol ac roedd yn Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas Tai Newydd ers 2017. Mae Claire yn gyfrifydd siartredig cymwysedig, ac yn gweithio i’r cwmni cyfrifwyr o Gaerdydd, Azets, ac mae’n arbenigo mewn arian corfforaethol. Mae ganddi brofiad mewn cydsoddiadau a chaffaeliadau a helpu cwmnïau i dyfu, ac mae ganddi brofiad blaenorol mewn cymdeithasau tai trwy Grŵp Tai Arfordirol, Cymoedd i’r Arfordir a Phobl.
Paula Kennedy a Peter Crockett
Fel rhan o’r Uwch Dîm Rheoli, mae gan Paula a Peter leoedd tîm gweithredol ar y Bwrdd. Gallwch ddarllen mwy amdanyn nhw ar ein tudalen Tîm Uwch Reolwyr.