Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd
Mae Cartrefi Melin bellach yn Hedyn

Rydym wedi uno â Chartrefi Dinas Casnewydd i greu cymdeithas newydd, a'i henw newydd yw Hedyn.

Ewch i hedyn.cymru i gael gwybod mwy

Yn ôl i Cynnal a chadw

Plâu

Does neb eisiau rhannu eu cartref gyda phlâu fel cnofilod a neu bryfed and mae yna rai pethau y gallwn eu gwneud i geisio’u hatal.

Beth allwch chi ei wneud

Gwnewch yn siŵr nad oes sbwriel yn eich cartref a'ch gardd. Gall sbwriel ddenu llygod mawr neu lygod. Chwiliwch eich eiddo am fannau y gallent ddod i mewn, fel fentiau sydd wedi'u difrodi neu dyllau yn y gwaith brics. Gallai hyn wneud lle i gnofilod, gwenyn neu bryfed eraill wneud eu nythod, neu fynd i mewn i'ch cartref.

Os byddwch chi’n dod ar draws unrhyw fannau lle gallen nhw ddod i mewn i’ch cartref, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn gallu edrych i mewn i’r mater.

Er mwyn cadw eich cartref yn rhydd o sbwriel, defnyddiwch y biniau olwynion neu'r bagiau y mae’r cyngor yn eu rhoi i chi. Os oes gennych sbwriel dros ben, defnyddiwch gyfleusterau tipio eich awdurdod lleol neu trefnwch i gludwr gwastraff trwyddedig ei symud.

Mathau o blâu

Llygod a llygod mawr

Rodents like these spread diseases through their urine and droppings. They may also cause damage to your home, including chewing through electrical wires.

If they are getting into your home, please ffoniwch ni i rhoi gwybod sut.

Cacwn

Mae gwenyn yn hoffi gwneud eu nythod mewn mannau cysgodol – mewn llwyni, llofftydd, siediau, ceudodau wal ac o dan bondoeau.

Gall fod yn beryglus mynd yn agos at nyth gwenyn, felly mae'n syniad da cael cymorth arbenigol i'w dynnu oddi yno.

Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol am help i'w symud oddi yno. Os oes nyth gwenyn ynghlwm wrth eich tŷ, y peth i'w wneud yw cysylltu â ni i roi gwybod a gallwn drefnu i’w dynnu oddi yno.

Gwenyn

Mae gwenyn yn bryfed sydd mewn perygl, a ni ddylid symud nythod heblaw eu bod yn fygythiad i bobl gerllaw.

Os ydych chi'n dod o hyd i nyth neu haid, gallwch gysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain a all helpu i symud y nyth heb ladd y gwenyn.

Os yw'r plâu wedi niweidio'ch cartref

Os yw plâu wedi difrodi ffabrig eich eiddo, byddwn yn trefnu i atgyweirio'r difrod hwnnw.

Ond, os ydych chi'n achosi difrod trwy fethu ag atal neu drin problem yn ymwneud â phlâu, efallai na fyddwn yn gwneud atgyweiriadau, neu efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu costau’r atgyweiriad.

Cael gwared ar blâu o ardaloedd cymunedol

Byddwn yn cael gwared ar blâu o ardaloedd cymunedol. Rhowch wybod am blâu mewn ardaloedd cymunedol.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cysylltwch â ni

Os ydych chi wedi gwirio’r wybodaeth am blâu uchod ac angen rhoi gwybod i ni am broblem plâu, ewch at ein tudalen gyswllt.

Cysylltwch