Yn ôl i Cymryd rhan

Ysgolion

Ein rhaglen i ysgolion

Mae FACE yn rhaglen unigryw i ysgolion Cynradd ac Uwchradd sy’n cysylltu â’r cwricwlwm ac sydd wedi ei haddasu i gael y gorau allan o bobl ifanc. Mae FACE yn canolbwyntio ar sut allwn ni fod o fudd i fywydau pobl ifanc pan ddaw’n fater o’u cyfleoedd gyrfa a’r meddylfryd y mae ei angen i fynd allan a chyrraedd y nodau hynny. Mae gyda ni raglenni i ysgolion cynradd ac uwchradd.

Am FACE

Dyfodol: Yn ymwneud â thai, dechrau byw ar ein pen eich hun, ac arian!
Gweithgar:
Cadw’n iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol gan ganolbwyntio’n helaeth ar les.
Gyrfa:
Cyfleoedd yn y sectorau tai ac ehangach, gan wneud eich hun yn agored i gael eich cyflogi!
Amgylchedd: Gwneud y byd yn lle gwella a gofalu am y byd.

Sut mae FACE yn gweithio

Mae FACE yn rhaglen am ddim sydd ar gael i ysgolion yn ardaloedd ein Hawdurdodau Lleol:

  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Blaenau Gwent
  • De Powys

Ariennir y rhaglen trwy gontractwyr yr ydym yn gweithio â nhw, maen nhw’n talu arian i’n Cronfa Cymunedau Cynaliadwy pan fyddan nhw’n gweithio gyda ni sy’n ein galluogi ni i gyflenwi prosiectau fel hyn i’n cymunedau.

Gallwch weld y contractwyr i gyd yr ydym yn gweithio â nhw ac sy’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Cefnogi athrawon

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw athrawon a’r gwaith gwych y maen nhw’n gwneud i gefnogi pobl ifanc. Efallai gall FACE gefnogi athrawon gyda’n cynllun lles, Zest. Gallwn efallai helpu i gefnogi tîm yr ysgol gyda bwydydd iach, gweithdai ymlacio, dosbarthiadau ymarfer corff a mwy.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cymunedau

Ym Melin, rydym yn ymwneud â llawer mwy na dim ond brics a morter. Rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan yn ein cymunedau.

Darllenwch fwy

Grwpiau cymunedol

Rydym yn gwybod mai chi yw’r bobl orau i ddweud wrthym ni sut rydym yn gwneud, felly rydym bob amser yn falch o glywed eich barn.

Dysgwch fwy