Yn ôl i Cymryd rhan

Gweithio gyda’n cymunedau

Rydym yn gwneud pob dim y gallwn ni i edrych ar ôl eich cartref, ond rydym yn falch hefyd ein bod ni’n helpu i adeiladu cymunedau. Ym Melin, rydym ni’n fwy na brics a morter. Rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan yn ein cymunedau, yn ymgysylltu â’n trigolion ac yn dod i’w hadnabod yn well.

Ein digwyddiadau

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i’n cymunedau gan gynnwys diwrnodau hwyl i blant, dosbarthiadau crefft, sesiynau bingo/cwis a llawer mwy. Rydym yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, cynghorau lleol a chymdeithasau tai eraill er mwyn ymestyn mor bell ag y gallwn.

Rydym yn aml yn postio gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau sydd i ddod trwy ein cyfryngau cymdeithasol ac ar bosteri yn ein cymunedau a’n cynlluniau. Gallwch weld pa ddigwyddiadau sydd gyda ni ar y gweill trwy fynd at ein tudalen digwyddiadau.

Lleisiau Melin

Yn ogystal â chynnal digwyddiadau cymunedol, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n trigolion ym mhob peth a wnawn. Dyna pam y bu i ni ddechrau ein grŵp bywiog ac angerddol ymgysylltiad trigolion, Lleisiau Melin.

Mae Lleisiau Melin wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnwys cannoedd o’n trigolion sydd am roi eu barn am ein gwaith. Maen nhw’n cymryd rhan mewn arolygon a grwpiau ffocws rheolaidd ac mae gennym hefyd rai is-grwpiau yn y Lleisiau sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol o ddatblygiad, fel cymunedau a gwasanaethau cwsmeriaid.

Ariannu cymunedol

Rhan bwysig arall o’n gwaith i’n Tîm Cymunedau yw ariannu. Gall ein Cronfa Jump2 roi grantiau bach (hyd at £250) i grwpiau/elusennau/sefydliadau lleol sy’n gweithio i gael effaith yng nghymunedau Melin.

Mae gan gronfa Jump2 ran addysgol hefyd a gall trigolion Melin wneud cais i Jump2 am hyd at £250 tuag at gostau hyfforddiant/addysg.

You may find these pages helpful

Newyddion

Darllenwch am ein digwyddiadau blaenorol gyda’n postiadau blog eraill – y cyfan yn ein hadran Newyddion!

Ewch â fi yno