Yn ôl i Cynnal a chadw

Damp, Lleithder, llwydni a chyddwysiad

Beth sy’n achosi llwydni

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae llawer o eiddo yn dioddef tamprwydd a thwf llwydni oherwydd cyddwysiad.

Gallwn oll wneud newidiadau bach yn ein ffordd o fyw yn ein cartref i rwystro llwydni sydd fel rheol yn cael ei achosi gan gyddwysiad yn codi yn ein cartrefi.

Darlun o lwydni mewn cornel ystafell

Awgrymiadau

Gadael i oleuni ddod i mewn i’ch cartref

Mae mannau tamp a thywyll yn lle da i lwydni ddatblygu, felly sicrhewch bod eich llenni ar agor yn ystod y dydd i ganiatáu i olau naturiol ac aer ffres ddod i mewn i’r ystafell.

Cadw gwlybaniaeth yn yr aer i lawr

Yr allwedd i rwystro yw cadw gwlybaniaeth yn yr aer i lawr. Sychwch unrhyw gyddwysiad sy’n casglu ar eich waliau, nenfydau a siliau ffenestri. Gall peiriant dadleithio hefyd helpu i dynnu gwlybaniaeth o’r aer.

Ceisiwch gadw drws eich ystafell ymolchi a’r gegin ar gau, a chadw’r ffenestri ar agor wrth goginio.

Sychu unrhyw wlybaniaeth gormodol

I rwystro llwydni a chyddwysiad rhag ffurfio, mae’n syniad da sychu unrhyw fannau gwlyb. Gallai hyn fod ffenestr eich llofft, er enghraifft, ar ôl noson o gwsg – sychwch nhw gyda chadach sych.

Sicrhau bod awyriad da yn eich cartref

Mae awyru yn allweddol wrth ddelio gyda chyddwysiad. Os ydych yn cael problemau cyddwysiad yn aml, bydd angen i chi ddelio gyda lleithder eich cartref drwy awyru. Gellir gwneud hyn drwy agor y fentiau bach ar ffenestri, neu agor ffenestr rhyw ychydig bach.

Cadw eich cartref wedi ei selio rhag dŵr

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â dŵr yn dod i mewn i’ch cartref cysylltwch â ni.

Gwresogi eich cartref

Yn ystod y gaeaf, twymwch eich cartref yn effeithiol, ar dymheredd isel cyson o 18ºC, i rwystro cyddwysiad rhag ffurfio oherwydd newidiadau mewn cynhesrwydd. Gyda’r argyfwng costau byw efallai na fyddwch eisiau rhoi eich gwres ymlaen ond gall hyn achosi problemau. Os ydych yn cael anhawster, cysylltwch â’r tîm Cyngor a fydd yn gwneud popeth y gallent i’ch helpu.

Darlun o decell yn stemio

Beth yw gwlybaniaeth a chyddwysiad?

Gwlybaniaeth

Gwlybaniaeth yw un o’r prif resymau pam y mae llwydni yn digwydd. Dyna pam y ceir hyd iddo gan amlaf mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi, lle mae stêm ar ôl cael cawod neu goginio yn arwain at amodau gwlypach na mewn ystafelloedd eraill.

Cyddwysiad

Mae yna beth gwlybaniaeth yn yr aer bob amser, hyd yn oed os na allwch ei weld. Os bydd aer cynnes yn oeri, ni all gadw’r holl wlybaniaeth a gynhyrchir gan weithgareddau bob dydd ac mae peth ohono yn ymddangos fel smotiau bach o ddŵr. Mae’n fwyaf nodedig ar ffenestri ar fore oer.

Dyma beth yw cyddwysiad.

Mae cyddwysiad yn digwydd mewn tywydd oer, hyd yn oed pan fydd y tywydd yn sych.

Chwiliwch am gyddwysiad yn eich tŷ. Gall ymddangos ar neu ger ffenestri, mewn corneli neu’r tu allan i wardrob a chwpwrdd.

Mae cyddwysiad yn ffurfio ar arwynebau oer a mannau lle nad oes llawer o aer yn symud, a bydd yn eistedd ar yr wyneb, tra byddai lleithder yn mynd yn ddyfnach na’r wyneb.

I rwystro cyddwysiad, cymerwch y camau canlynol

  • Creu llai o wlybaniaeth drwy sychu eich dillad yn yr awyr agored ac nid ar reiddiaduron.
  • Os ydych yn defnyddio peiriant sychu dillad, gwnewch yn siŵr bod fent priodol arno.
  • Rhedeg y tap oer cyn yr un poeth yn y bath a rhoi caead ar sosbenni.
  • Awyru eich cartref drwy agor ffenestri neu fentiau ffenestri.
  • Defnyddio ffan echdynnu os oes gennych un. Os oes gennych un, maent yn costio rhyw geiniog y dydd i’w rhedeg.
  • Gwresogi eich cartref yn effeithiol, ar dymheredd cyson isel o 18ºC, gan ddefnyddio thermostat i reoli eich gwres yn hytrach na gwres cryf achlysurol, ac mae’n costio llai na rhoi’r gwres ymlaen a’i ddiffodd. Os nad ydych yn meddwl bod y gwres yn gweithio’n iawn, cysylltwch â ni.
  • Os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio gwresogyddion nwy potel neu baraffin – nid yn unig maent yn beryglus ond maent hefyd yn cynhyrchu llawer o wlybaniaeth ac yn cynhyrchu monocsid carbon. Sicrhewch bod gennych larwm monocsid carbon sy’n gweithio yn yr un ystafell os ydych yn eu defnyddio, a gallwn roi un o’r rhain i chi am ddim.
  • Caewch ddrysau ystafell ymolchi a chegin pan fyddwch yn eu defnyddio. Mae hefyd yn syniad da cadw drysau llofftydd ar gau gan fod yr ystafelloedd hyn fel rheol yn oerach a gall hyn ddenu gwlybaniaeth.
  • Awyrwch gypyrddau a wardrobau ac osgoi rhoi gormod ynddyn nhw gan fod hyn yn stopio’r aer rhag cylchredeg.
  • Cadwch ddodrefn i ffwrdd oddi wrth waliau i ganiatáu i’r aer gylchredeg.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

  • Byddwn yn anfon aelod staff neu gontractwr wedi ei gymeradwyo gan Melin i ddod i weld eich eiddo.
  • Byddant yn cwblhau rhestr wirio cyddwysiad a lleithder, sy’n golygu archwiliad trylwyr
  • Byddwn yn anfon aelod staff neu gontractwr wedi ei gymeradwyo gan Melin i ddod i weld eich eiddo.
  • Byddant yn asesu’r eiddo ac adnabod yr achosion a’r gwaith trwsio sydd ei angen.
  • Byddant yn cwblhau rhestr wirio cyddwysiad a lleithder, sy’n sicrhau archwiliad trylwyr o’r eiddo.
  • Unwaith y bydd y gwaith wedi ei wneud, cwblheir gwiriad sicrhau ansawdd i sicrhau bod y gwaith a wnaed wedi datrys y broblem.
  • Bydd canllaw ar sut i reoli cyddwysiad yn eich cartref yn cael ei roi, ynghyd â Therma-Hygrometer a fydd yn rhoi syniad da i chi o lefelau gwlybaniaeth a chyddwysiad yn eich cartref.
  • Byddwn yn gwneud arolwg ar ôl tri mis o wneud unrhyw waith i sicrhau bod y broblem wedi ei datrys.
  • Os cewch unrhyw broblemau pellach cyn i ni ddod i archwilio eich cartref, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Arbed arian ac ynni

I’ch helpu chi i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ac i arian yr aelwyd, rydym wedi casglu ynghyd rhai syniadau a all eich helpu i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.

Rhagor o wybodaeth

Gwres ddim yn gweithio?

Os byddwch yn sylweddoli nad yw eich rheiddiaduron yn cynhesu, neu os yw’r gwres yn stopio gweithio, mae yna rai pethau syml y gallwch eu gwneud eich hun i geisio datrys y broblem.

Rhagor o wybodaeth