Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Prynu nwyddau gwyn

Darluniad o beiriant golchi

Wrth symud i gartref newydd, un o’r costau mwyaf yw prynu ‘nwyddau gwyn’ megis oergell, rhewgell a pheiriant golchi.

I’ch helpu i ymdopi gyda’r costau hyn, mae nifer o bethau i’w cadw mewn cof wrth brynu nwyddau gwyn:

Awgrymiadau ar gyfer prynu nwyddau gwyn

Siopau elusen a phrynu nwyddau ail-law

Gall siopau elusen a masnachwyr ail-law gydag enw da fod yn ffordd wych o brynu nwyddau gwyn rhatach. Wrth brynu eitemau ail-law, gwnewch yn siŵr bod yr eitem rydych yn ei phrynu wedi ei phrofi o ran diogelwch trydanol. Dylech ofyn os oes gwarant yn mynd gyda’r eitem a beth yw’r polisi dychwelyd.

Ewch arlein a chymharu prisiau

Yn aml, fe welwch yr un eitem ar model ar werth gan wahanol fanwerthwyr, am brisiau gwahanol. Treuliwch beth amser i ymchwilio hyn arlein, a gall arbed arian i chi.

Dylech gymharu costau hyd yn oed pan fydd gan siopau sêls a hyrwyddiadau (e.e. Black Friday) gan efallai nad y rhain yw’r opsiwn rhataf. Mae ymchwil yn awgrymu mai’r gaeaf yw’r adeg rataf i brynu nwyddau gwyn.

Chwilio am godau disgownt a chynigion arian yn ôl

Weithiau bydd chwilio ar Google am godau disgownt yn eich helpu i gael arian i ffwrdd gyda rhai manwerthwyr. Mae yna hefyd fanwerthwyr sy’n partneru gyda llwyfannau arian yn ôl, felly gallwch gael canran o gost eich nwyddau gwyn yn ôl i’ch cyfrif arian yn ôl.

Mae gan rai banciau hefyd hyrwyddiadau arian yn ôl, felly edrychwch i weld os oes gan eich cyfrif cyfredol fargen arian yn ôl gyda manwerthwr nwyddau gwyn.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi