Yn ôl i Cynnal a chadw

Gwres ddim yn gweithio

Beth i’w wneud os nad oes gennych wres neu ddŵr poeth

Os ydych yn sylwi nad yw eich rheiddiaduron yn cynhesu, neu os yw eich gwres yn rhoi’r gorau i weithio, edrychwch ar y fideos defnyddiol isod gan Worcester Bosch i weld os yw unrhyw rai o’r pethau hyn yn effeithio eich system.

Ailbwyseddu boeler

Weithiau, os nad ydych wedi defnyddio eich boeler am sbel, gall golli pwysedd – mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei ddatrys eich hun. Mae Worcester Bosch wedi cynhyrchu fideo sy’n dangos i chi sut i ailbwyseddu eich system wresogi.

Os ydych yn cael problemau boeler na allwch eu datrys eich hun, yna cysylltwch â ni.

Sut i ailbwyseddu system wresogi gydag allwedd llenwi mewnol

Pibell gyddwyso wedi rhewi

Os yw eich boeler wedi stopio gweithio mewn tymheredd isel iawn, yna mae siawns dda bod eich pibell gyddwyso wedi rhewi. Yn ffodus, nid yw hon yn broblem fawr a gallwch ei datrys yn hawdd eich hun.

Gwyliwch y fideo yma i weld sut i wneud hynny.

Sut i ddadmer pibell gyddwyso sydd wedi rhewi yn ddiogel

Gwaedu rheiddiaduron

Os bydd un o’ch rheiddiaduron ddim yn cynhesu yn y top, dim ond gwaedu’r rheiddiadur sydd angen ei wneud. Gwyliwch y fideo yma i weld sut i wneud hyn.

Gwaedu rheiddiaduron

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Trefnu gwaith trwsio

Os nad yw’r awgrymiadau uchod wedi datrys eich problem, cysylltwch â ni i drefnu gwaith trwsio. Pan fyddwch yn cysylltu gyda ni, byddwn yn gofyn os ydych wedi rhoi cynnig ar y camau syml yma.

Dal ddim yn gweithio