Yn ôl i Gweithio i Melin

Sut i geisio am swydd

Os yw hyn yn apelio ac rydych eisiau gwybod pa swyddi yr ydym yn recriwtio iddynt ar hyn o bryd, ewch i’n porth recriwtio.

Cewch bori trwy’r holl swyddi sydd gennym ar y pryd, ar waelod y dudalen, ac yna clicio ar ‘Read More’ os oes swydd o ddiddordeb i chi. Cewch eich tywys at ragor o wybodaeth a byddwch yn gallu agor ein Pecyn Recriwtio (yn y tab ‘Documents available’ ar frig tudalen y swydd).

Yn ein Pecynnau Recriwtio, cewch ragor o wybodaeth am Melin, a’r rôl, er mwyn i chi allu penderfynu os ydym ni’n eich siwtio chi a chael gwybod beth fyddai’ch rôl a beth fyddai’ch prif gyfrifoldebau.

Ceisio am swydd

Bydd gofyn i chi greu cyfrif, a gallwch wneud hyn trwy ddewis Login/Register.

Unwaith i chi wirio eich cyfeiriad e-bost, byddwch yn gallu defnyddio’ch cyfrif ymgeisydd.

Unwaith i chi gael cyfrif ymgeisydd gallwch:

  • lenwi’ch manylion cyswllt;
  • cofrestru i gael hysbysiadau am swyddi;
  • lanlwytho’ch CV;
  • dweud ychydig yn fwy amdanoch chi’ch hun.

Dyma sut i geisio am swydd, cam wrth gam …

Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a gwneud y peth iawn, yna rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Dyma beth allwch chi ei wneud i ddangos pam mai chi yw’r unigolyn ar gyfer y rôl hon.

Cam un

Porwch drwy ein gwefan i weld pwy ydym ni a beth yw ein gwaith. Sicrhewch eich bod yn deall y Swydd-ddisgrifiad a’r Disgrifiad Person (mae yna ddolen at y rhain yn nogfen PDF y Pecyn Recriwtio).

Cam dau

Wedi i chi ddarllen y dogfennau a phenderfynu mai dyma’r rôl i chi, pwyswch y botwm i geisio amdani. Cadwch y wybodaeth wrth law gan y bydd ei hangen arnoch i ysgrifennu chwip o gais.

Yma yn Melin rydym am glywed y cyfan am eich sgiliau a’ch profiad a sut y maent yn berthnasol i’r rôl, felly peidiwch â dal yn ôl. Unwaith fyddwch chi’n hapus â’ch cais, pwyswch y botwm i’w gyflwyno ac arhoswch am wybodaeth bellach.

Cam tri

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych os ydych wedi cael eich gwahodd i gyfweliad. Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd trwy e-bost, trwy eich cyfrif Networx, felly cofiwch gadw llygad ar eich mewnflwch – peidiwch ag anghofio edrych yn eich mewnflwch sothach os nad ydych wedi clywed gennym. Byddwn yn cysylltu â chi bob tro, waeth a ydych chi’n llwyddiannus ai peidio.

Cam pedwar

Mae’r cyfweliad yn gyfle i ni gael rhagor o wybodaeth amdanoch chi ac yn gyfle i chi holi unrhyw gwestiynau sydd gennych - ymlaciwch, rydyn ni’n bobl ffeind a chyfeillgar!

Pob lwc!