Yn ôl i Cymryd rhan

Cronfa Jump2

Mae ein Cronfa Jump2 yn rhoi grantiau gwerth hyd at £250 ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i’n trigolion, eu teuluoedd a’n cymunedau.

I beth allwch chi ddefnyddio nawdd Cronfa Jump2

  • Gwelliannau amgylcheddol, e.e. cynlluniau plannu cymunol.
  • Budd cymdeithasol, e.e. offer ar gyfer neuaddau cymunedol a mannau chwarae.
  • Digwyddiadau untro sy’n gallu cael effaith barhaus.
  • Hurio cyfleusterau er mwyn darparu gweithgareddau sydd o fudd i gymuned.
  • Cludiant i leoliadau ac yn ôl.
  • Prosiectau ysgol yn un o gymunedau Melin.
  • Costau addysgu/hyfforddiant (trigolion Melin yn unig; nid yw’n cynnwys
    eitemau digidol fel gliniaduron) ar yr amod nad yw’r trigolyn yn cael
    cymorth gan Melin ar brosiectau eraill. Gallwn dderbyn un cais yn unig
    gan bob aelwyd.

Prosiectau sydd wedi llwyddo i gael nawdd yn y gorffennol

Dyma enghreifftiau o geisiadau llwyddiannus am nawdd Jump2 yn y gorffennol:

  • Clwb Bowlio Garndiffaith – ceisiodd am nawdd i brynu peiriant strimio a theclyn torri cloddiau er mwyn cynnal a chadw’r clwb chwaraeon cymunedol.
  • Ysgol Gynradd New Inn – ceisiodd am arian tuag at y gost o brynu 15 pecyn roboteg newydd ar gyfer ei disgyblion.
  • Race AFC – ceisiodd am nawdd tuag at y gost o brynu marcwyr maes, conau a phecynnau cymorth cyntaf.

Nodiadau canllaw ar gyfer ymgeisio

Mae Jump2 yn agored i drigolion Melin, grwpiau gwirfoddol a mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen a Phowys.

Rhaid i geisiadau ddangos yn glir y budd posibl i drigolion Melin a’i gymunedau. Os yw’r ceisiadau sy’n dod i law yn gofyn am fwy o arian na’r arian sydd ar gael, byddwn yn dyfarnu’r grantiau i’r rheiny sy’n gallu cynnig y budd pennaf. Byddwn yn sicrhau ein bod yn cefnogi ystod o brosiectau.

Rheolau
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr gyfrif busnes/grŵp.
  • Rhoddir sieciau unigol i unigolion sy’n hawlio Bwrsariaeth yn unig.
  • Rhaid defnyddio logo Melin ar unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo (er enghraifft ar grysau chwaraeon) ac wrth dderbyn y grant rhaid i chi gytuno i gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd a ffotograffau er mwyn ein helpu i hyrwyddo’r gronfa.
  • Rhaid defnyddio’r grantiau ar gyfer y gweithgarwch a nodwyd ar y ffurflen gais ac nid at unrhyw ddiben arall, onid yw ein panel dethol wedi rhoi eu cymeradwyaeth penodol dros wneud hynny.
  • Bydd gofyn i chi gynnwys dyfynbrisiau gyda’ch cais.

Ni ellir defnyddio’r Gronfa at unrhyw rai o’r dibenion canlynol:

  • Nawdd ar gyfer elusennau neu fentrau teithio elusennol
  • Gwaith ar eiddo neu dir preifat
  • I ychwanegu at arian sydd gennych yn barod
  • I gefnogi grwpiau gwleidyddol, crefyddol neu “lobïo”.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Newyddion

Darllenwch am rai o’n llwyddiannau cymunedol yn y gorffennol, er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau chi.

Darllen mwy