Yn ôl i Homeowners

Gwaith trwsio ar gyfer tai gwarchod

Cyfrifoldebau trwsio

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi trosolwg cyffredinol o rwymedigaethau Melin a’r les-ddeiliad o ran gwaith trwsio. Mae hefyd yn sôn am welliannau y gallwch chi eu gwneud i’ch cartref.

Os oes unrhyw amheuaeth gennych am waith trwsio neu welliannau, darllenwch dros eich les i ddechrau. Isod, mae yna wybodaeth fanylach am gyfrifoldebau trwsio ar gyfer ardaloedd penodol.

Ein cyfrifoldebau

Melin sy’n gyfrifol am rannau allanol a rhannau cymunol yr adeilad, a rhywfaint o’r gwaith trwsio tu mewn i’r fflatiau. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:

  • Trwsio sylfeini a’u cynnal a chadw;
  • Ceblau trydan;
  • Socedi a switshis;
  • System wresogi;
  • Pibau dŵr;
  • Yr holl ddraeniau, heblaw am ddraeniau sydd wedi’u blocio sy’n gyfrifoldeb ar les-ddeiliaid unigol;
  • Y to;
  • Erialau cymunol;
  • Drysau ffrynt fflatiau (gan gynnwys nwyddau haearn);
  • Rhosynnau/dalwyr golau yn y nenfwd;
  • Yr holl ffenestri;
  • Strwythur waliau allanol;
  • Addurno ardaloedd cymunol ac eithrio rhannau allanol yr adeilad.
Byddwn yn:
  • rhoi rhybudd rhesymol pan fydd angen cael mynediad arnom (er, efallai na fydd hyn yn bosibl mewn argyfwng);
  • cyflawni ein dyletswyddau o dan delerau’r les.
Rhaid i chi:
  • roi mynediad i’ch cartref i staff perthnasol Melin ac isgontractwyr Melin. Cofiwch ofyn am gerdyn adnabod sy’n profi pwy ydyn nhw;
  • riportio unrhyw waith trwsio i Melin;
  • cadw drysau mewnol, waliau, pibau gwasanaeth, cyfleustodau’r gegin, baddonau, sinciau, toiledau a basnau ymolchi dwylo i weithio’n dda;
  • peidio â gwneud unrhyw waith strwythurol nac unrhyw addasiadau strwythurol hyd nes i chi gael caniatâd ysgrifenedig.
Gallwch:
  • ailaddurno tu mewn i’ch fflat a gosod ffitiadau newydd yn eich eiddo er enghraifft baddonau, sinciau a chypyrddau’r gegin.

Gwelliannau

Os ydych yn dymuno gwneud gwelliannau, yna dylech ddweud wrthym a rhoi cymaint o fanylion â phosibl. Dylech adael i ni weld unrhyw gynlluniau hefyd, os oes angen. Wedi i chi gael caniatâd, rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw reoliadau cynllunio ac adeiladu a gofynion cyfredol y cwmnïau nwy, dŵr a thrydan ynghyd ag unrhyw amodau y byddwn ni’n eu gosod.

Efallai y byddwn yn dymuno gweld y gwaith wedi i chi ei gwblhau a byddwch chi’n gyfrifol am dalu unrhyw gostau sy’n codi.

Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu rhoi caniatâd dros y gwelliannau. Byddwn yn rhoi’r rhesymau dros wrthod y gwelliannau i chi, yn ysgrifenedig.