Yn ôl i Symud i Melin

Cymuned

Llun o’n gasebo Cymunedau wedi ei orchuddio â byntin

Yma ym Melin, mae gennym llawer mwy i’w gynnig na brics a morter yn unig. Rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan yn ein cymunedau, ymgysylltu â'n trigolion a dod i'w hadnabod yn well.

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer ein cymunedau, yn cynnwys diwrnodau difyr i blant, dosbarthiadau crefft, sesiynau bingo/cwisiau a chymaint mwy. Rydym yn aml yn cydweithio â grwpiau cymunedol, cynghorau lleol, ysgolion a chymdeithasau tai eraill i estyn allan mor bell ag y gallwn. Gallwch ddarganfod mwy am ein digwyddiadau yma. Rydym yn annog trigolion i gysylltu â ni gyda'u syniadau ar gyfer eu cymunedau. Mae gennym grant cymunedol, sef Jump2 a all helpu i gefnogi’ch prosiect.

Pan fyddwch chi’n dod yn un o drigolion Melin, byddwch yn dod yn un o Leisiau Melin a bydd cyfle gennych i roi eich adborth am ein gwasanaethau drwy arolygon. Os hoffech chwarae mwy o ran gallwch ymuno ag un o grwpiau ffocws Lleisiau.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cronfa Jump2

Mae ein Cronfa Jump2 yn rhoi grantiau o hyd at £250 ar gyfer prosiectau a gweithgareddau y gall ein trigolion, eu teuluoedd a’n cymunedau elwa ohonynt.

Dysgu mwy