Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Eich cyfrifoldebau

Pan lofnodoch chi eich cytundeb tenantiaeth fe wnaethoch chi addo bod yn gyfrifol am ymddygiad pawb sy’n byw yn eich cartref neu’n ymweld.

Y cyfan rydym yn gofyn yw i chi fod yn gymydog da a, ble mae’n bosibl, dod i delerau rhyngoch chi a’ch cymdogion – weithiau, y cwbl sydd ei angen yw sgwrs fer a phwyllog i gael cytundeb.

Os ydych chi’n cael trafferthion gydag YGG

Er ein bod ni’n cymryd adroddiadau o YGG o ddifri, dylech, ble bynnag y bo’n bosibl, geisio siarad â’r person o dan sylw cyn ein ffonio ni. Efallai nad ydyn nhw’n ymwybodol bod eu hymddygiad yn cael effaith negyddol ar eich bywyd. Os nad yw hyn yn bosibl, neu os nad yw’n gweithio, yna’r cam nesaf yw siarad â’r tîm Diogelwch Cymunedol, a fydd yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth. Mae yna rai pethau y gall y tîm helpu â nhw a rhai pethau na allan nhw.

Datrys problemau gyda’ch cymydog

Os oes gennych chi broblem gyda’ch cymydog, neu os oes gan eich cymydog problem gyda chi, mae’n bwysig ceisio datrys cyn gynted â phosibl.

Efallai byddwch chi’n gallu datrys anghydfod a phroblemau dydd i ddydd o niwsans trwy siarad â’ch cymydog. Efallai nad yw eich cymydog yn ymwybodol eu bod yn achosi problem.

Pan fyddwch yn siarad â’ch cymydog, cofiwch:

  • Aros yn bwyllog
  • Cadw pethau’n gyfeillgar (efallai nad ydyn nhw’n gwybod eich bod yn achosi problemau)
  • Meddwl am sut yr hoffech chi i rywun siarad â chi pe baech chi’n achosi’r broblem
  • Mynd ar adeg briodol
  • Peidiwch â mynd os ydych chi’n grac
  • Peidiwch â thorri ar draws os yw eich cymydog yn dechrau gweiddi
  • Cadwch reolaeth a pheidiwch â gweiddi
  • Esboniwch y broblem yn bwyllog – a dangoswch sut mae’r ymddygiad yn effeithio arnoch chi/ar aelodau eich teulu
  • Os yw’r cymydog yn mynd yn grac, esgusodwch eich hun a cherddwch i ffwrdd.

Os nad oes modd datrys pethau

Os ydych chi wedi siarad â’ch cymydog ond dyw pethau ddim yn gwella, yna cysylltwch â ni.

Mae’n bwysig hefyd cofio bod gennym weithiau ffordd o fyw sy’n wahanol i eraill yn ein cymunedau a, thrwy fod yn oddefgar o hyn, mae modd osgoi gwrthdaro a phroblemau’n aml.

Os oes angen i chi ddweud wrth yr Heddlu

Gall Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gynnwys gweithgaredd troseddol. Dylid dweud wrth yr Heddlu am droseddau:

  • Am alwad brys i’r Heddlu ffoniwch 999
  • Am alwad nad yw’n un brys i’r Heddlu ffoniwch 101
  • I ffonio Crimestoppers, ffoniwch 0800 555 111
  • I gysylltu â’n tîm Diogelwch Cymunedol, danfonwch e-bost at asb@melinhomes.co.uk neu cwblhewch y ffurflen ar ei dudalen gyswllt.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Diogelu

Mae Diogelu’n ymwneud â gwarchod hawliau oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw’n ddiogel, yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustra.

Dysgwch fwy