Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dweud am YGG

Gallwch ddweud am ymddygiad gwrthgymdeithasol wrthym trwy nifer o ffyrdd gwahanol, gallwch gwblhau’r ffurflen ar ein tudalen Cysylltu (dewiswch ‘Adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol’ yn y gwymplen Rheswm dros gysylltu). Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gysylltu â ni - mae’r manylion i gyd ar y dudalen Cysylltu.

Cwynion dienw

Byddwn yn cofnodi pob adroddiad dienw am ymddygiad gwrthgymdeithasol, serch hynny ni fyddwn fel arfer yn cymryd camau mewn perthynas â nhw oni bai bod ein staff yn gallu eu gwirio neu ble gallwn gael tystiolaeth ychwanegol.

Os nad yw’r sefyllfa’n argyfwng, ond mae angen cyngor ac ymyrraeth yr heddlu, ffoniwch 101 os gwelwch yn dda.

Os oes argyfwng brys ac os ydych chi neu unrhyw un arall mewn perygl, ffoniwch 999 os gwelwch yn dda.

Triger Cymunedol

Os ydych chi wedi dweud am ddigwyddiad o YGG ac yn anhapus ynglŷn â sut cafodd ei drin, yna efallai bydd y Triger Cymunedol o ddefnydd i chi.

Os ydych chi wedi dweud am ddigwyddiad tair gwaith neu fwy o fewn cyfnod o chwe mis a heb gael ateb derbyniol, gallwch weithredu’r Triger Cymunedol (adnabyddir hefyd fel Adolygiad achos YGG) trwy eich Awdurdod Lleol.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Diogelu

Mae Diogelu’n ymwneud â gwarchod hawliau oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw’n ddiogel, yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustra.

Dysgwch fwy