Canmoliaeth a chwynion
Byddwn yn datrys unrhyw gwynion yn gyflym ac yn effeithiol. Gallwch wneud cwyn drwy:
- Anfon e-bost i complaints@hedyn.cymru
- Anfon neges atom drwy Live Chat
- Ymweld â ni yn bersonol (bydd cydweithiwr o Hedyn yn cofnodi manylion eich cwyn ac yn eu trosglwyddo i’n Tîm Cwynion.)
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb llawn atoch chi o fewn deg diwrnod gwaith.
Os nad ydych yn fodlon gyda'n hymateb, gallwch apelio. Byddwch yn cael ymateb i'ch apêl o fewn 15 diwrnod gwaith.
Rydym yn awyddus i ddatrys cwynion cyn gynted â phosibl. Ond, os na allwn wneud hynny, gallwch fynd â phethau ymhellach drwy gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.