Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Cyngor ar arian

Ym Melin, rydym yn ymroddedig i gynorthwyo ein trigolion ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae rhan fawr o hyn yn cynnwys helpu trigolion gyda materion ariannol. Dyma rai o’r meysydd ariannol y gallwn eich helpu gyda nhw.

Darlun o gynllunydd cyllideb

Cyllidebu

Wrth redeg aelwyd, mae llawer o bethau i’w hystyried. Mae cael digon o arian i dalu eich rhent, biliau cyfleustodau a rhoi bwyd ar y bwrdd yn bwysig. Gall ein cynghorwyr helpu gyda chynllunio cyllideb a rhoi’r wybodaeth a’r pecynnau gofynnol i chi i reoli eich arian yn well.

Biliau

Mae’r cynnydd mewn costau byw yn gallu rhoi straen ar arian yr aelwyd. Gall edrych o gwmpas i gael y fargen orau ar filiau nwy, trydan, rhyngrwyd a biliau eraill arbed llawer o arian i chi.

Gall ein tîm roi cyngor a gwybodaeth i chi er mwyn cael y bargeinion gorau sydd ar gael er mwyn i chi allu arbed arian.

Budd-daliadau

Mae’n bwysig ein bod oll yn gallu hawlio’r budd-daliadau y mae gennym hawl iddyn nhw. Gall hawloi’r budd-daliadau cywir helpu trigolion i sicrhau bod ganddynt ddigon o incwm i dalu costau rhedeg eich cartref. Rydym yn gwybod bod gwneud cais am fudd-daliadau yn gallu bod yn anodd iawn, felly mae ein cynghorwyr wrth law i’ch helpu i ddeall budd-daliadau a gwneud cais.

Argyfyngau a newidiadau sydyn mewn amgylchiadau

Os yw eich aelwyd wedi wynebu newid sydyn mewn amgylchiadau, gallwch fod yn wynebu sefyllfa ariannol anodd. Gall heriau gynnwys colli eich swydd yn sydyn, marwolaeth aelod o’r teulu, neu oedi wrth gael dyfarniad cais am fudd-daliadau.

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, os ydych mewn sefyllfa annisgwyl, cysylltwch â ni. Efallai y gallwn gynnig cymorth mewn argyfwng i chi er mwyn sefydlogi eich sefyllfa.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi